Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Amser atgyfodi'r clasuron?
Wrth i gyfres ddrama newydd i blant sy'n dilyn anturiaethau efeilliaid o'r enw gychwyn ar wasanaeth Cyw S4C ar 13 Rhagfyr tybed faint fydd yn gwybod am y nofel fer o'r un enw o 1927 gan Kate Roberts?
"Roedd Deian a Loli yn nofelig Kate Roberts yn efeilliaid," meddai cynhyrchydd y gyfres Angharad Elen "ac mae'r straeon rheini wedi eu gosod nid nepell o Landwrog - lleoliad y gyfres deledu.
"Ond mae gan Deian a Loli y gyfres deledu bwerau hudol - maen nhw'n rhewi eu rhieni i'r unfan, er mwyn cael gwneud dryga neu fynd allan i chwara'."
Mae byd lliwgar, byrlymus y Deian a Loli ar Cyw yn wahanol iawn i fyd cymeriadau'r nofel wreiddiol yn ardal chwareli Arfon gan mlynedd yn 么l ac wedi ei ysgogi'n bennaf gan ei phlentyndod ei hun yn Llandwrog meddai Angharad Elen.
Ond roedd cyfrol Kate Roberts yn ysbrydoliaeth hefyd er nad yw'r straeon teledu yn seiliedig ar rai'r gyfrol "mewn unrhyw ffordd."
Felly faint o glasuron Cymraeg eraill y gallen ni eu hatgyfodi a'u hailbecynnu i'r oes fodern?
Dywed Dr Siwan Rosser, sy'n arbenigwr ar lenyddiaeth plant ym Mhrifysgol Caerdydd, ei bod yn bwysig inni fod yn ailddweud straeon o'r gorffennol a bod angen rhoi mwy o sylw i'r 'clasuron' Cymraeg fel Deian a Loli.
Ble mae'r rhestr o glasuron Cymraeg?
Yn Saesneg does dim ond angen chwilio'n sydyn ar y we i ddod o hyd i restr o'r 'clasuron' sy'n cael eu hargymell i blant eu darllen ond mae'n anodd iawn cael hyd i restr o'r fath yn y Gymraeg.
Mae hynny am ein bod ni'n wael iawn am ofalu am ein clasuron a'u hailargraffu a'u haddasu yn 么l Dr Rosser.
"Unwaith mae llyfr yn mynd allan o brint yn Gymraeg mae'n diflannu'n sydyn iawn o'n hymwybyddiaeth ni felly does na ddim traddodiad yng Nghymru dros y ganrif ddiwetha' o gadw deunyddiau sy'n cael eu cyfri o bwysigrwydd llenyddol neu hanesyddol mewn print.
"Felly rydyn ni wedi colli golwg ar gyfrolau fel Teulu Bach Nant Oer a llyfrau fel Nedw a Hunangofiant Tomi gan Tegla.
"Uwaith maen nhw'n ymddangos fel tase nhw wedi dyddio, mae'n rhy hawdd eu rhoi nhw o'r neilltu yn hytrach na cheisio eu diweddaru a dod 芒 nhw i gynulleidfa newydd," ychwanegodd.
Mae 'na eithriadau - llyfrau fel Luned Bengoch gan Elizabeth Watkin Jones yn yr wythdegau a yn 2013 - ond llyfrau T Llew Jones yw'r unig rai sydd wedi aros mewn print ar y cyfan meddai Dr Rosser.
"Dwi'n teimlo ein bod ni'n anghofio am y gweddill yn rhy hawdd a dim ond cyfri T Llew fel rhywun sy'n werth ei gadw," meddai.
Ac mae'n nhw'n werth eu cadw meddai Dr Rosser am eu bod yn rhan bwysig o'n diwylliant ac yn rhoi darlun o'r plentyndod Cymreig:
"Mae'r ffordd mae awduron wedi bod yn sgrifennu ar gyfer plant a phobl ifanc yn y gorffennol yn rhan bwysig o'n diwylliant ni.
"Mae angen inni fod yn edrych n么l i'r gorffennol a bod yn ymwybodol o'n hanes ni a mae hanes plentyndod y gorffennol yn rhan yr un mor bwysig a'r un agwedd arall o'n dealltwriaeth ni o'r gorffennol.
"Os ydyn ni yn colli golwg ar yr hyn oedd yn digwydd yn y gorffennol ryden ni'n colli golwg ar ran bwysig o hanes y Gymraeg a'i llenyddiaeth ac amgylchiadau plant yn y gorffennol."
Diweddaru i gynulleidfa fodern
Felly oes na sg么p i addasu'r clasuron i blant neu am blentyndod?
"Mi fase rhywun yn gallu dadlau y basech chi'n gallu cymryd hanfod y straeon hyn 芒'u hailddweud." meddai Dr Rosser.
"Mae straeon Enid Blyton er enghraifft - y Secret Seven a'r Famous Five ac yn y blaen - wedi cael eu hailsgrifennu i raddau helaeth dros y blynyddoedd. Mae 'na lawer o addasiadau a thalfyriadau ar gael o'r gwaith.
"Mae 'na bethau sy'n broblematig am lenyddiaeth o'r cyfnod yna - mae agweddau a daliadau wedi newid.
"Ond does dim rhaid inni fod wastad yn atgynhyrchu pethau yn union fel roedden nhw, mae modd bod yn hyblyg a'u diweddaru nhw ar gyfer cynulleidfa fodern ac mi fydde rhai o'r gweithiau cynharaf yna yn addas ar gyfer y math yna o ailddweud.
"Mae Deian a Loli ei hun yn straeon bach fyddai'n benthyg eu hunain yn hawdd i'w hailddweud a'u hailgyflwyno."
Cyfnod heriol
Mae Dr Rosser wedi ei chomisiynu gan Gyngor Llyfrau Cymru i gynnal .
Yn 么l Dr Rosser mae'r farchnad yn wynebu cyfnod heriol gydag addysg Gymraeg ar dwf a'r galw am ddeunydd atyniadol yn cynyddu.
"Ond mae'r hinsawdd economaidd bresennol yn cyfyngu ar yr hyn sy'n bosibl i'w gyflawni," ychwanega.
"Sut felly allwn ni ymateb yn greadigol i'r her o sicrhau bod y Gymraeg yn iaith sy'n bwydo dychymyg ein plant a'n pobl ifanc?"
A fyddai diweddaru ac addasu rhai o'n clasuron yn un ateb?
"Mae'n gyfnod diddorol i feddwl am hyn - yng nghyd-destun sut i ddenu darllenwyr ifanc i fwynhau'r Gymraeg a dyna ydi testun yr arolwg," meddai Dr Rosser.
Beth yw'r clasuron?
Ond mae'r cwestiwn yn aros, beth yw'r 'clasuron' Cymraeg i blant?
Rhai awgrymiadau yw:
- Sioned gan Winnie Parry
- Hunangofiant Tomi a Nedw gan E Tegla Davies
- Luned Bengoch a llyfrau eraill gan Elizabeth Watkin Jones
- Nofelau T Llew Jones
- Cyfres y Llewod gan Dafydd Parry
- Jabas gan Penri Jones
- Tydi Bywyd yn Boen gan Gwenno Hywyn
Ac ymysg y llyfrau wnaeth ysbrydoli cynhyrchydd Deian a Loli fel plentyn roedd Cyfres Baeheli gan Gwenno Hywyn a Chyfres Rwdlan, Angharad Tomos. A'u gwaddol iddi hi meddai Angharad Elen ydy fod "peth o naws a rhin" y straeon hynny wedi "gadael eu h么l" ar gyfres deledu Deian a Loli.
Beth yw eich clasuron plentyndod chi? cymru@bbc.co.uk