大象传媒

Prif weithredwr S4C, Ian Jones i adael yn 2017

  • Cyhoeddwyd
Ian Jones

Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd eu prif weithredwr Ian Jones yn gadael ei swydd tua diwedd 2017.

Mae Ian Jones wedi bod yn y swydd ers pum mlynedd, a bydd yn parhau i weithio yn y diwydiant teledu ar 么l gadael S4C.

Mewn datganiad, dywedodd S4C y bydd Mr Jones yn rhannu ei amser gwaith rhwng Prydain a San Francisco, lle mae ei bartner wedi cael swydd newydd yn ddiweddar.

Fe fydd yn gadael ar 么l i Lywodraeth Prydain gwblhau adolygiad annibynnol o'r sianel.

Cyfnod 'llawn heriau'

Wrth gyhoeddi y bydd yn gadael, dywedodd Ian Jones y byddai ei ymadawiad yn "ddiwedd cyfnod gyda'r sianel sy'n dyddio n么l i ddechrau fy ngyrfa".

"Mae wedi bod yn gyfnod o newid parhaus, llawn heriau, ac mae wedi bod yn fraint i weithio gyda chriw angerddol a thalentog a rhai o bobl mwyaf talentog y diwydiant."

Dywedodd Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones fod Ian Jones wedi arwain y sianel drwy gyfnod o "newid sylweddol, gydag egni ac ymroddiad".

"Mae wedi ennill ffydd y diwydiant teledu yng Nghymru, yn ogystal 芒 gwleidyddion o bob plaid," meddai, "ac wedi bod yn allweddol wrth greu partneriaeth newydd hynod gynhyrchiol gyda'r 大象传媒.

"Mae wedi delio gyda thoriadau ariannol sylweddol, tra'n sicrhau fod y gwasanaeth a ddarperir i'r cyhoedd wedi bod o ansawdd uchel iawn.

"O dan ei arweiniad, mae S4C wedi cymryd camau pwysig wrth ddatblygu presenoldeb ar-lein ac ar draws y DU."