大象传媒

Cyngerdd olaf ar gyfer trigolion Penrhos

  • Cyhoeddwyd
Friendship Hall at Penrhos Polish HomeFfynhonnell y llun, Eric Hall/Geograph
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe fydd cyngerdd nos Sul yn cael ei gynnal yn neuadd Penrhos

Fe fydd elusen gafodd ei ffurfio i gynorthwyo 'pentref' Pwyleg yn y gogledd yn cynnal eu gwasanaeth carolau olaf un yn ddiweddarach ddydd Sul.

Mae Cyfeillion Cartref Penrhos ger Pwllheli wedi codi 拢180,000 ers cael eu sefydlu 18 mlynedd yn 么l.

Ond dywed y trefnwyr fod aelodau'r gymdeithas yn heneiddio a bod yn rhaid rhoi'r gorau i'w hymdrechion.

Cafodd cartref Penrhos ei sefydlu yn 1949 ar gyn safle'r awyrlu er mwyn rhoi cartref i filwyr Gwlad Pwyl ar 么l yr Ail Ryfel Byd.

Bron i 70 o flynyddoedd yn ddiweddarach mae'r safle 8 hectar yn dal i ofalu am anghenion y pensiynwyr sy'n byw yno.

Dywedodd Eryl Williams, cadeirydd yr elusen, y bydd heno'n noson anodd ond un llawn atgofion.

"Rydym wedi dod i adnabod trigolion Penrhos - a bydd hi'n drist gorfod ffarwelio am y tro olaf."

Yn y dyddiau cyntaf cytiau pren oedd yn rhoi cartref i ran fwyaf o drigolion Penrhos ar y cyn faes awyr.

Ond erbyn heddiw mae'r safle yn cynnig cartref gofal a hefyd cartrefi sy'n caniat谩u i bobl fyw yn annibynnol.

"Ma'r lle wedi datblygu yn rhan o'n cymuned, ac mae wedi bod yn brofiad hynod i allu helpu'r trigolion," meddai Mrs Williams.

"Ond does yna ddim gwirfoddolwyr newydd yn dod i'r fei i gynorthwyo, felly r诺an yw'r amser i ddweud ffarwel."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llun o'r safle yn y 60au