大象传媒

Cyhoeddi 'adroddiad cymysg' i Garchar Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Carchar Caerdydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Carchar Caerdydd yn dal tua 770 o ddynion ac yn garchar Categori B

Mae angen i Garchar Caerdydd "ganolbwyntio ar welliant tymor hir", yn 么l adroddiad diweddar gan y Prif Arolygwr Carchardai.

Mewn ymweliad dirybudd 芒'r carchar yn ystod yr haf fe sylwodd Peter Clarke fod y carchar wedi dod yn le "llai diogel" ers yr arolygiad diwethaf yn 2013.

Ond mae'n nodi bod y carchar yn parhau'n "sefydlog dan oruchwyliaeth staff ymroddgar".

Mae'r gwaith o addysgu troseddwyr i addasu'n 么l i mewn i gymdeithas wedi gwella, yn 么l yr adroddiad.

'Gormod o gyffuriau'

Mae'r arolygwyr yn pwysleisio fod angen i'r carchar "wneud mwy i atal y dosbarthiad o gyffuriau anghyfreithlon" a bod y troseddwyr yn "treulio gormod o amser yn eu celloedd".

Roedd yr arolygwyr yn hapus i weld fod y berthynas rhwng y troseddwyr a staff y carchar yn dda a bod 'na ddigon o gyfleoedd addysgiadol i'r carcharorion.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol y Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr, Michael Spur: "Dwi'n falch fod yr arolygwyr wedi canmol gwaith y staff yng Ngharchar Caerdydd.

"Mae mwy i'w wneud ac mae 'na gynlluniau eisoes ar droed i wella diogelwch o fewn y carchar, gan gynnwys penodi rheolwr lleihau trais."

Mae carchar Caerdydd yn dal oddeutu 770 o ddynion ac yn cael ei ystyried yn garchar categori B.