大象传媒

Nigel Owens: 'Angen polisi llym' yn erbyn homoffobia

  • Cyhoeddwyd
Nigel Owens

Mae dyfarnwr rygbi rhyngwladol wedi dweud wrth bwyllgor diwylliant, cyfryngau a chwaraeon yn San Steffan fod angen polisi llym yn erbyn camdriniaeth homoffobig.

Roedd Nigel Owens yn ymddangos o flaen un o bwyllgorau T欧'r Cyffredin sydd yn ymchwilio i homoffobia mewn chwaraeon.

Fe ddywedodd Mr Owens fod angen i bobl ifanc sydd yn dioddef o gamdriniaeth ar y we "rannu eu profiadau gydag eraill neu ddweud wrth yr awdurdodau".

'Rygbi ddim yn gamp homoffobig'

"Rydych yn teimlo weithiau mai eich bai chi yw'r cyfan, rydych yn teimlo gwendid, siom ac embaras gan nad ydych yn gallu ymdopi gyda'r sefyllfa," meddai.

"Nid chi yw'r person gwan. Y person gwan ydi'r bobl sydd yn gyfrifol am y camdriniaeth a'r bwlio."

Dywedodd hefyd nad oedd yn teimlo fod rygbi yn gamp homoffobig a bod ei brofiadau o fod yn rhan o'r g锚m wedi bod yn bositif.