大象传媒

Jedi Ynys M么n

  • Cyhoeddwyd
Jedi

Yn oriau m芒n bore Iau 15 Rhagfyr roedd sinema'r Empire yng Nghaergybi yn orlawn gan ei bod hi ymhlith y rhai cyntaf yn y DU i ddangos Rogue 1, ffilm newydd Star Wars.

Erbyn hyn mae gan y dref borthladd ar Ynys M么n ran ganolog i'w chwarae yng nghreadigaeth George Lucas gan bod eglwys fyd-eang wedi ei seilio ar Star Wars wedi ei sylfaenu gan Gymry o Gaergybi.

Ers ei sefydlu, mae nifer yr aelodau wedi cyrraedd hanner miliwn, gyda nifer o'r rhain yn dod o bob cwr o'r byd. Yn 么l Cyfrifiad 2011 roedd 176,632 o bobl wedi nodi eu bod yn dilyn y grefydd Jedi-aeth ym Mhrydain.

Daniel Jones, un o gyd-sylfaenwyr yr eglwys, fu'n esbonio wrth Cymru Fyw beth yw system gred y Jedi:

Grym hollalluog

Mae Eglwys Jedi-aeth wedi ei sylfaenu ar system gred ac ideoleg gafodd ei chreu gen i a dau o'm cyd-sylfaenwyr yn 2008 a dyma'r egwyddorion sy'n cael eu harddel gan yr aelodau heddiw.

Y cwestiwn sydd yn cael ei ofyn i mi ac aelodau eraill yr eglwys yn aml ydy - "beth ydych chi'n ei gredu?"

Egwyddor graidd Eglwys Jedi-aeth yw deall bod yna rym hollalluog sy'n plethu pob peth byw yn y bydysawd gyda'i gilydd. Heb y ddealltwriaeth honno, fyddwch chi ddim yn gallu bodoli ac hebddoch chi fydda'r grym nerthol yna ddim yn gallu bodoli chwaith. Mae hyn yn ganolog i'r eglwys a'i gweithredoedd.

Mae sy'n cael ei defnyddio fel y prif ganllaw ymarferol ar gyfer addysg grefyddol a dysgeidiaeth yr eglwys.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daniel Jones, cyd-sylfaenydd Eglwys Jedi-aeth

Ymladd gyda 'lightsabers'

Mae'r aelodau yn arddel bywyd moesol, ac yn anelu am fywyd di-wenwyn heb bryderon a straen gan deimlo eu bod yn rhan o'r bydysawd o'u cwmpas. Mae'r eglwys yn hyfforddi'r aelodau i ddeall eu hemosiynau a'u teimladau er mwyn gwybod sut i ymateb mewn unrhyw sefyllfa.

Mae'r eglwys hefyd yn dysgu sgiliau hunan-amddiffyn i'r aelodau trwy eu hyfforddi mewn crefft ymladd (martial arts) a'u dysgu sut i ymladd gyda ffyn golau (lightsabers).

Prif amcanion y system gred o fewn yr eglwys yw helpu'r aelodau i fyw yn heddychlon ac i ddefnyddio ynni positif allai gyfrannu i wneud y byd yn lle hapusach a mwy dedwydd. Mae'r aelodau yn codi arian i elusennau ac yn helpu i hyrwyddo ffyrdd iachach ac hapusach o fyw.

Ffynhonnell y llun, AP
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Jedi-aeth yn fyd-eang: Hyfforddi aelodau newydd yng Nghaliffornia

Myfyrio

Un o'r prif ymarferion yr ydym ni yn ei arddel o fewn yr eglwys yw myfyrio dwys i lefel nad yw unrhyw un yn meddwl am sgwrsio a'i bod yn bosib rheoli 'twyll amser'.

Mae nifer fawr o bobl yn teimlo straen gan eu bod dan ddylanwad amser - does dim digon ohono ganddyn nhw, neu mae amser yn eu herbyn, yn sownd mewn traffig, er enghraifft.

Mae'r eglwys yn helpu i wneud yn si诺r ei bod hi'n bosib rheoli'r sefyllfaoedd yma yn fwy effeithiol a sicrhau nad oes 'na straen yn deillio ohonyn nhw.

Mae'n holl hyfforddiant yn cael ei gyflwyno trwy ein gwefan a llyfrau sydd ar gael i'r aelodau. Y llyfr cyntaf mae pob aelod newydd yn ei gael yw'r 'Church of Jediism Handbook', sy'n cynnwys gwybodaeth a chyflwyniad i syniadau craidd y system gred a sut i fynd ati i ddatblygu hyfforddiant.

Ar hyn o bryd mae ganddon ni 500,000 o aelodau ar hyd a lled y byd ac mae'r niferoedd yn codi yn ddyddiol.

Mae cofio bod hyn i gyd wedi dechrau yng Nghaergybi ar Ynys M么n yn rhywbeth i ymfalch茂o ynddo.

(Addasiad yw hon o erthygl gafodd ei chyhoeddi yn Cylchgrawn Cymru Fyw ym mis Rhagfyr 2015)

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gan Eglwys Jedi-aeth fwy na llond dwrn o aelodau