大象传媒

'Cydweithio ar bolisi iaith yn bwysicach nag erioed'

  • Cyhoeddwyd
Donostia - neu San Sebastian.Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn ninas Donostia - neu San Sebastian - yng Ngwlad y Basg y cafodd y ddogfen ei chyhoeddi

Mae cydweithio rhwngwladol ar bolisi ieithoedd lleiafrifol yn "bwysicach nag erioed" yn dilyn y bleidlais dros Brexit, yn 么l ysgolhaig blaenllaw.

Daw sylwadau'r Athro Elin Haf Gruffydd Jones wrth i ddogfen newydd "i sicrhau hawliau" siaradwyr gael ei lansio ddydd Sadwrn yng Ngwlad y Basg.

Mae dros 100 o sefydliadau sifil o fwy na 30 o gymunedau ieithyddol, gan gynnwys Cymru, wedi cyfrannu at Brotocol Donostia, sy'n cynnwys 185 o fesurau i ddiogelu amrywiaeth ieithyddol.

Aeth tua 600 o gynrychiolwyr i gyhoeddiad y protocol, sydd yn 么l y trefnwyr yn "offeryn ymarferol".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones yw cyfarwyddwr Sefydliad Mercator ym Mhrifysgol Aberystwyth

"Pwrpas y protocol ydi gosod safonau y bydden ni'n disgwyl i lywodraethau yn rhyngwladol fedru cyrraedd atyn nhw," meddai'r Athro Jones, oedd ar bwyllgor academaidd Protocol Donostia.

"Dwi'n meddwl bod y math yma o fenter yn bwysicach nag erioed r诺an i ni yng Nghymru ac i rannau eraill o'r Deyrnas Gyfunol.

"'Dan ni wedi chwarae r么l flaenllaw yn datblygu polisi ac yn pasio arfer da ym maes amrywiaeth ieithyddol a chynllunio iaith - y peth ola' fyddwn i eisiau i ni wneud r诺an fyddai ymneilltuo... a chau ein hunain oddi wrth syniadau o wledydd eraill."

'Offeryn ymarferol'

Cafodd hawliau ieithyddol eu hamlinellu yn Natganiad Barcelona yn 1996, ac mae'r protocol newydd yn adeiladu ar y ddogfen honno.

Cyngor iaith Gwlad y Basg, Kontseilua, sydd wedi cydlynu'r fenter, a hynny i nodi blwyddyn dinas Donostia - San Sebastian mewn Sbaeneg - fel prifddinas diwylliant Ewrop.

Dywedodd pennaeth y prosiect, Paul Bilbao Sarria, bod rhan sefydliadau sifil yn y fenter yn ganolog.

"Y nod yw cael rhyw fath o offeryn - offeryn ymarferol - ar gyfer cydraddoldeb iaith", meddai.

"Y peth pwysicaf yw bod y protocol wedi ei greu gan y gymdeithas sifil - a dyma ydi'r peth pwysicaf i lywodraethau gofio."

Y mesurau

Esiamplau o rai o'r mesurau sydd yn cael eu hawgrymu yn y ddogfen:

  • Gwasanaethau cyhoeddus - "Sicrhau bod staff gan gweinyddol desg-ffrynt allu ieithyddol digonol"

  • Iechyd - "Cynllun sydd yn blaenoriaethu galw am allu ieithyddol digonol ar gyfer meddygon teulu, meddygon plant, seicolegwyr a seiciatryddion, a staff eraill sydd yn dod i gyswllt uniongyrchol 芒'r cyhoedd"

  • Addysg - "Holl weithgareddau allgyrsiol ar gael yn yr iaith leifarifol"

  • Enwau lleoedd - "Deddf i sicrhau bod enwau lleoedd yn yr iaith leiafrifol wastad yn bresennol ar gofrestrau swyddogol, arwyddion a mapiau"

  • Cyfryngau - "Sicrwydd o arian i gynnal papur newydd dyddiol yn yr iaith leiafrifol"

  • Celfyddydau - "Sefydlu cwota ar gyfer sinem芒u i ddangos ffilmiau yn yr iaith leiafrifol"

Ffynhonnell y llun, Protocol Donostia
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r protocol wedi ei gyhoeddi mewn pump iaith - Basgeg, Sbaeneg, Catalaneg, Ffrangeg a Saesneg

'Llinyn mesur'

Ymysg y sefydliadau o Gymru a gyfrannodd at y ddogfen roedd Cymdeithas yr Iaith, Rhieni Dros Addysg Gymraeg, Dathlu'r Gymraeg, a Dysgu Cymraeg Prifysgol Aberystwyth.

"Fel mudiad sy'n brwydro dros y Gymraeg yng Nghymru, ry'n ni'n credu fod yn bwysig cyd-weithio gyda phobl sy'n wynebu heriau tebyg a dysgu gan ein gilydd," meddai Tomos Jones, Swyddog Rhyngwladol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

"Mae'r ddogfen sy'n cael ei bwrw i'r byd heddiw yn Donostia yn bwysig fel llinyn mesur - ac mae'n ein hatgoffa fod yr hawl i fyw yn eich hiaith eich hun yn hawl sylfaenol. Ry'n ni'n falch o fod yn un o'r mudiadau cyntaf i'w llofnodi.

"Bydd yn sail nid yn unig i ymgyrchwyr iaith mewn gwahanol rhannau o Ewrop gydweithio ymhellach, ond hefyd yn her, gyda sylfaen arbenigol gref iddi, sy'n mynnu bod y rhai mewn grym yn parchu ein hawliau ieithyddol."