大象传媒

Cipolwg ar orsaf newydd Heddlu'r Gogledd yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Gorsaf newydd Heddlu'r GogleddFfynhonnell y llun, HEDDLU GOGLEDD CYMRU

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi manylion am orsaf newydd eco-gyfeillgar fydd yn cael ei hadeiladu yn Llai ger Wrecsam.

Bydd y gwaith adeiladu yn dechrau ar 23 Ionawr 2017, wedi i Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, arwyddo cytundeb i gymeradwyo'r cynllun.

Ar gost o 拢21.5m, bydd yr adeilad eco-gyfeillgar newydd yn cynnwys paneli arbennig i gynhyrchu trydan, a system storio d诺r glaw mewn ymdrech i arbed cost yn yr hirdymor.

Bydd 200 o blismyn a staff yn gweithio ar y safle, fydd yn cynnwys 32 o gelloedd i gadw pobl sydd yn cael eu harestio yn siroedd Wrecsam a'r Fflint.

Mae disgwyl i'r orsaf fod wedi ei chwblhau erbyn mis Awst 2018.

Ffynhonnell y llun, HEDDLU GOGLEDD CYMRU
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y tu fewn i'r orsaf newydd

Ffynhonnell y llun, HEDDLU GOGLEDD CYMRU
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd 32 o gelloedd yn yr orsaf newydd