大象传媒

Cau Siop y Siswrn yn Wrecsam 'yn golled aruthrol'

  • Cyhoeddwyd
Siop y Siswrn

Wedi dros 30 mlynedd o wasanaeth, mae unig siop Gymraeg Wrecsam wedi cau ei drysau am y tro olaf.

Fe gaeodd Siop y Siswrn, oedd wedi ei lleoli yn adeilad marchnad y dref, Noswyl Nadolig.

Mae dau o bobl wedi colli eu gwaith yn sgil cau'r siop, a agorodd gyntaf yn Wrecsam ym 1984.

Dywedodd y perchnogion, Selwyn ac Ann Evans, sydd hefyd yn rhedeg Siop y Siswrn yn yr Wyddgrug, iddyn nhw ddod i'r penderfyniad yn rhannol oherwydd cynlluniau cyngor Wrecsam i ail-ddatblygu Marchnad y Bobl yn Wrecsam.

Wrth siarad ar raglen y Post Prynhawn ar 大象传媒 Radio Cymru ddydd Iau, dywedodd Mr Evans: "Wedi dros 30 mlynedd, mae'n ddiwedd cyfnod arnon ni oherwydd, yn bennaf oll, bod y cyngor yn cau'r farchnad ac mae ansicrwydd o du'r cyngor wedi'n rhoi ni mewn sefyllfa lle nad oedden ni'n teimlo ein bod ni'n gallu parhau o fewn yr hyn roedd y cyngor yn gynnig i ni.

"Da' ni'n teimlo'n fawr ein bod ni'n gadael ein cwsmeriaid rheolaidd yn Wrecsam, ac i lawr am Ddyffryn Ceiriog, i lawr, ond da' ni'n ffeindio, dros y misoedd diwetha 'ma, ma' pobl yn teimlo eu bod nhw'n licio 'chydig o newid hefyd, ac mae nifer fawr o gwsmeriaid wedi cychwyn, yn barod, dod i'r Wyddgrug."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cynlluniau i ailddatblygu Marchnad y Bobl yn Wrecsam oedd un o'r rhesymau dros gau Siop y Siswrn

Er bod arferion siopa pobl wedi newid ers agor y siop, dydy Mr Davies ddim yn ystyried hynny'n broblem fawr: "Mae 'na newid mawr ym mhatrwm pryniant wedi bod, ac ym mhatrwm prynu llyfrau. Ond da' ni'n falch o ddweud, llyfrwerthwyr yn gyffredinol a chyhoeddwyr, dydy'r Kindle ac ati ddim wedi lladd y farchnad draddodiadol.

"Roedd 'na bryderon mawr rhyw bum mlynedd yn 么l, ond mae pobl yn dal i fwynhau gweld llyfrau ar eu bwrdd coffi dros y Nadolig.

"Mae'n drist meddwl ein bod ni'n dod i ddiwedd cyfnod yn Wrecsam, ond ein polisi ni ydy, os nad ydyn ni'n medru gwneud y peth yn iawn ac yn effeithiol, mae'n well cywasgu cowlad bach a'i chadw hi'n dynn."

Ar drothwy cau'r siop, dywedodd un o gwsmeriaid y siop y byddai'n golled aruthrol: "Mae 'na gymaint o bobl yn siarad Cymraeg yn Wrecsam, a mae 'di bod yn rhan o'r dre ers cymaint o flynyddoedd.

"Siop y Siswrn ydy'r lle mae pobl yn mynd i gael eu llyfrau, cardiau, papur bro a phethau felly ac felly mi fydd yn golled aruthrol i'r ardal, bydd."