大象传媒

Rhoi stamp ar y siopa

  • Cyhoeddwyd
Adeilad ' Royal Welsh Warehouse', pencadlys busnes prynu a gwerthu Pryce Pryce Jones yn Y Drenewydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Adeilad 'Royal Welsh Warehouse', pencadlys busnes prynu a gwerthu Pryce Pryce-Jones yn Y Drenewydd

Faint ohonoch chi wnaeth eich siopa' dolig ar y we eleni gan obeithio y byddai'r parseli 'na'n cyrraedd mewn pryd? A phwy fyddai'n meddwl y byddai ganddom ni le i ddiolch i Gymro o'r canolbarth am wneud ein bywydau ni mor hwylus?

Ond nid y rhyngrwyd wnaeth ysbrydoli syniad arloesol Syr Pryce Pryce-Jones o werthu nwyddau trwy'r post - ond dyfodiad y stamp.

Yn fab i gyfreithiwr, cafodd y dyn busnes mentrus ei eni yn Llanllwchaearn, ger Y Drenewydd yn 1834. Roedd o'n 12 oed pan ddechreuodd fel prentis yn siop gwerthu deunyddiau John Davies yn Y Drenewydd. Ymhen deng mlynedd fe oedd yn gyfrifol am y busnes.

Yn Oes Fictoria roedd gan Y Drenewydd ddiwydiant gwl芒n llewyrchus. Ar un adeg, melin wl芒n y Cambrian oedd y felin fwyaf yng Nghymru. Roedd y deunydd o'r felin hon yn gwerthu'n dda yn siop Pryce Pryce-Jones.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Clawr un o gatalogau cwmni Pryce Jones

Busnes ar y cledrau

Ond roedd 'na un broblem fawr yn wynebu Pryce a'i gwsmeriaid. Gan ei bod hi'n ardal wledig, a dim s么n am geir a bysus, doedd hi ddim yn hawdd iawn i nifer o bobl deithio i'r dref.

Dyna sut ddaeth y stamp a'r rheilffordd i'r adwy.

Dechreuodd anfon bamffledi yn hysbysebu ei nwyddau gan wahodd y cwsmeriaid i wneud eu dewis ac anfon eu harchebion yn 么l trwy'r post i'r siop. Yna, byddai Pryce Jones a'i staff yn paratoi'r archebion a'u hanfon ar y tr锚n.

Oherwydd llwyddiant ysgubol y fenter, bu'n rhaid i'r busnes symud sawl gwaith i leoliadau mwy er mwyn delio efo'r busnes ychwanegol.

Yn 1879, fe gafodd adeilad tal brics coch y Royal Welsh Warehouse ei adeiladu ynghanol Y Drenewydd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Syr Pryce Pryce-Jones

Cadw byddin Rwsia yn gynnes

Un o'r nwyddau mwyaf poblogaidd oedd yr Euklisia Rug. Math o sach cysgu cynnar oedd hwn ac mi gafodd y ddyfais ei chydnabod yn swyddogol yn 1876. Cafodd ei werthu dros y byd, gan gynnwys 60,000 ohonyn nhw i fyddin Rwsia.

Erbyn 1880 roedd ganddo dros 100,000 o gwsmeriaid gan gynnwys y Frenhines Fictoria a Florence Nightingale. Roedd y busnes yn y Drenewydd yn cyflenwi dillad isaf i'r ddwy. Mae'n rhaid bod y nwyddau'n plesio gan iddo gael ei urddo yn farchog gan Fictoria yn 1887.

Erbyn diwedd ei oes, roedd Pryce Pryce-Jones yn cyflenwi gwlanen o Gymru i fwyafrif teuluoedd Brenhinol Ewrop.

Parhaodd y busnes yn llwyddiannus tan ei farwolaeth yn 1920 yn 85 oed.

Erbyn heddiw ry'n ni'n cymryd prynu a gwerthu trwy'r post yn ganiat谩ol, ond mae gweledigaeth y siopwr o'r canolbarth yn mynd o nerth i nerth.

Mae ei syniad gwreiddiol bellach wedi clicio gyda busnesau niferus eraill ar hyd a lled y byd.