大象传媒

Gwell profion sgrinio canser ceg y groth a'r coluddyn

  • Cyhoeddwyd
Canser

Bydd profion mwy cywir a haws eu defnyddio ar gyfer sgrinio am ganser ceg y groth a chanser y coluddyn yn cael eu cyflwyno yng Nghymru.

Gobaith y cynllun yw arbed mwy o fywydau yn 么l Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans.

Ar hyn o bryd, mae menywod yn cael eu sgrinio am arwyddion cynnar posib a allai arwain at ganser ceg y groth drwy broses o'r enw sytoleg.

Mae hynny'n golygu edrych ar gelloedd dan ficrosgop er mwyn gweld unrhyw annormaleddau.

Yn y dyfodol fe fydd merched yn cael eu sgrinio am brif achos canser ceg y groth - sef y feirws papiloma dynol risg uchel (HR-HPV), yn hytrach na gorfod mynd drwy'r broses sytoleg.

Gwella ansawdd bywyd pobl

Mae HR-HPV yn achosi bron i 100% o achosion o ganser ceg y groth, a'r gobaith yw y bydd profi am HR-HPV yn achub mwy o fywydau drwy weld y perygl i'r fenyw yn gynharach.

Dywedodd Rebecca Evans: "Mae sgrinio poblogaeth yn helpu i ganfod a oes risg uwch fod cyflwr penodol gan unigolyn sy'n iach yn 么l pob golwg.

"Mae'n achub bywydau ac yn gwella ansawdd bywyd pobl drwy adnabod risgiau'n gynnar.

"Mae'r prawf newydd i sgrinio ar gyfer canser y coluddyn yn llawer haws ei gynnal yn y cartref, ac mae cynlluniau peilot yn dangos cynnydd sylweddol yn nifer y defnyddwyr, gan gynnwys grwpiau anodd eu cyrraedd."

Bydd rhaglen beilot a fydd yn cynnwys tua 20% o fenywod Cymru yn cael ei chyflwyno o fis Ebrill 2017, ac mae disgwyl dechrau'r rhaglen yn llawn yn 2018/19.