大象传媒

Fflandrys i gyflwyno cadair newydd i goff谩u Hedd Wyn

  • Cyhoeddwyd
Cadair
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd copi o'r gadair newydd yn cael ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru gan Lywodraeth Fflandrys

Mae g诺yl lenyddol wedi ei threfnu gan gymdeithasau Cymraeg Penbedw a Fflandrys i nodi 100 mlynedd ers marwolaeth y Prifardd Hedd Wyn yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

I nodi'r canmlwyddiant mae Cymdeithas Hedd Wyn yn Fflandrys wedi comisiynu cadair arbennig i goffau'r bardd o Drawsfynydd.

Dywedodd trefnydd yr 诺yl, y Parchedig Ddoctor D. Ben Rees: "Bydd y gadair yn cael ei gyflwyno i'r bardd llwyddiannus yn yr 诺yl lenyddol ym mis Medi.

"Testun yr awdl fydd Hedd Wyn."

Ychwanegodd Dr Rees, sydd hefyd yn gadeirydd Cymdeithas Treftadaeth Glannau Mersi: "Fedrwch chi ddim ond dychmygu'r ing a'r trallod a'r galar oedd ymysg y dorf enfawr oedd yma yn Parc Birkenhead ym mis Medi 1917."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y Parchedig Ddoctor D Ben Rees ym mharc Penbedw, lleoliad Eisteddfod Genedlaethol 1917

Rhai wythnosau yn dilyn marwolaeth Ellis Humphrey Evans, cyhoeddwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw mai fo oedd enillydd y gadair gyda'i awdl 'Arwr'.

Fel rhan o'r 诺yl fe gadarnhaodd Dr Rees hefyd bod yr Archdderwydd, Geraint Lloyd Owen wedi dweud y bydd yn fodlon bod yng ngofal y seremoni gadeirio.

Yn ogystal 芒'r digwyddiad ym Mhenbedw mae'r llywodraeth yn Fflandrys hefyd wedi gofyn am gopi o'r gadair newydd er mwyn ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru, a hynny er mwyn selio'r cysylltiad hanesyddol a grewyd yn ystod y rhyfel byd cyntaf.

"Ryden ni hefyd am roi coron am gerdd yn y Gymraeg neu Saesneg i bobl ifanc dan 18 oed gan obeithio y bydd disgyblion ysgol o Lannau Mersi, Cymru a Fflandrys yn cymryd rhan," meddai Dr Rees.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Copi o raglen swyddogol yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1917

Mae Erwin Ureel o Gymdeithas Hedd Wyn yn Fflandrys wedi bod yn rhan o waith trefnu cystadleuaeth cynhyrchu'r gadair newydd a dywedodd bod Hedd Wyn yn "symbol pwysig yn Fflandrys".

"Mae'r gadair wedi ei gwneud o slipars lein reilffordd a ddarganfuwyd ger maes y gad. Fe ddaeth y cynllun i'r gadair ar 么l cystadleuaeth yn cynnwys myfyrwyr cynllunio dodrefn o Brifysgol Thomas Moore yn Mechelen rhwng Brwsel a Antwerp," meddai Mr Ureel.