Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gorchymyn cymunedol a dirwy wedi ymosodiad g锚m b锚l-droed
Mae golwr a gafwyd yn euog o ymosod ar chwaraewr o d卯m arall mewn g锚m b锚l-droed y llynedd wedi derbyn gorchymyn cymunedol a dirwy.
Fe ymddangosodd Sion Williams, 33 oed o'r Rhyl, o flaen Llys Ynadon Caernarfon ddydd Gwener, ar 么l ei gael yn euog ddechrau'r mis o gicio Sion Huws o Glwb P锚l-droed Llanllyfni yn ei ben.
Clywodd y llys fod Mr Huws yn gorwedd ar y llawr yn ystod yr ymosodiad gan Williams, oedd yn chwarae i glwb Prestatyn Sports.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn ystod g锚m danllyd rhwng CPD Llanllyfni a Prestatyn Sports ym mis Awst.
Cafodd y g锚m ei gohirio gan y dyfarnwr Aled Rhys Williams yn dilyn ymladd rhwng chwaraewyr y ddau d卯m a rhai o'r cefnogwyr oedd yn bresennol.
Roedd Williams wedi gwadu cicio Mr Huws, sy'n dioddef o epilepsi.
Dywedodd cadeirydd y llys, David Llewelyn Jones fod y dyfarnwr a chwaraewr arall wedi gweld y gic.
Cafodd Williams orchymyn i wneud 100 awr o waith yn ddi-d芒l, talu 拢400 o iawndal a 拢705 o gostau.