大象传媒

BT yn lansio gwasanaeth ailgyfeirio galwadau niwsans

  • Cyhoeddwyd
Ffon

Mae BT wedi dechrau gwasanaeth am ddim i geisio taclo galwadau ff么n niwsans, y cyntaf o'i fath ym Mhrydain.

Bydd y gwasanaeth yn golygu y gall galwadau ff么n niwsans gael eu hailgyfeirio fel bod cwsmeriaid ddim yn gorfod eu hateb.

Newidiadau yn y dechnoleg sydd wedi golygu bod y datblygiad yn bosib, am fod modd r诺an adnabod rhifau gan sgamwyr.

Bydd modd hefyd i gwsmeriaid ddweud wrth BT am unrhyw alwadau niwsans eraill dyw'r cwmni ddim yn ymwybodol ohonynt trwy ffonio 1572.

Os bydd nifer fawr yn s么n am yr un rhif bydd BT yn eu hychwanegu at y rhifau i'w hailgyfeirio.

Mae gwaith ymchwil diweddar gafodd ei wneud ar gyfer y cwmni yn dangos bod pobl yng Nghymru ar gyfartaledd yn derbyn tair galwad ff么n niwsans bob wythnos.

Fe gofnododd BT y galwadau niwsans mwyaf poblogaidd mewn un wythnos ym mis Rhagfyr. Y rhai gwaethaf oedd:

  • PPI

  • Iawndal ar gyfer damweiniau

  • Sgamiau cyfrifiadurol

  • Sg芒m i geisio dod o hyd i wybodaeth bersonol

  • Galwadau tawel

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae BT yn dweud y bydd y gwasanaeth newydd yn lleihau nifer y galwadau niwsans

Dywedodd John Petter, Prif Weithredwr Defnyddwyr BT eu bod eisiau gweithredu i daclo'r broblem.

"Rydyn ni wedi bod ar flaen y gad yn rhoi'r arfau i'n cwsmeriaid amddiffyn eu hunain yn erbyn y nifer uchel o alwadau ff么n PPI a galwadau marchnata sydd yn parhau i gynyddu," meddai.

"Nawr, gyda'n technoleg unigryw, fe allwn ni adnabod a thaclo nifer uchel o'r galwadau yma a hefyd rhoi'r hawl i'n cwsmeriaid reoli'r galwadau maen nhw'n derbyn eu hunain."