Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyngor Powys yn cefnogi ysgol Gymraeg yn Y Trallwng
Mae cynghorwyr ym Mhowys wedi cefnogi cynllun i agor dwy ysgol gynradd newydd yn Y Trallwng, yn lle pedair ysgol sydd yno ar hyn o bryd.
Dan y cynllun, byddai ysgol benodol cyfrwng Cymraeg cyntaf y dref yn cael ei hagor.
Mae'r cynllun yn golygu cau ysgolion Ardwyn, Grungog, Oldford a Maesydre ym mis Awst.
Bydd yr ysgol Gymraeg yn agor ar safle Maesydre, ac ysgol Eglwys yng Nghymru cyfrwng Saesneg yn cael ei hadeiladu ger Ysgol Uwchradd Y Trallwng.
Penderfynodd cabinet Cyngor Powys gefnogi'r cynllun ddydd Mawrth gydag ond un yn gwrthwynebu.
Ar y funud, mae modd cael addysg drwy'r Gymraeg drwy ffrydiau Cymraeg yn Ysgol Fabanod Ardwyn ac Ysgol Gynradd Maesydre.
Ar 么l cau'r ysgolion hynny, byddai lle i 150 disgybl yn yr ysgol Gymraeg newydd ar safle Maesydre.
yn rhagweld y bydd yr ysgol yn symud i'r safle hwnnw yn 2018-19, ac yn gweithredu ar safle presennol Ysgol Fabanod Ardwyn yn y cyfamser.
Fe fyddai'r ysgol cyfrwng Saesneg newydd - fyddai dan reolaeth Yr Eglwys yng Nghymru ac yn croesawu 360 disgybl - yn symud i safle newydd ar dir Ysgol Uwchradd Y Trallwng yn 2018-19.
Tan hynny, fe fyddai'n cael ei rhedeg o safleoedd presennol ysgolion Maesydre, Gungrog ac Oldford.