大象传媒

Galw am godi t芒l i gerdded Yr Wyddfa i dalu am waith cynnal

  • Cyhoeddwyd
Yr WyddfaFfynhonnell y llun, Google

Dylid ystyried codi t芒l ar gerddwyr i fynd i fyny'r Wyddfa er mwyn codi arian i dalu am fwy o waith cynnal a chadw ar y llwybrau, yn 么l swyddog Undeb Amaethwyr Cymru.

Ar hyn o bryd 拢250,000 sy'n cael ei wario ar y llwybrau, ond mewn gwirionedd mae angen miliynau o bunnoedd i allu gwneud y gwaith yn iawn.

Dywedodd Gwynedd Watkin bod pwysau mawr ar y llwybrau, gyda channoedd o filoedd o bobl yn heidio i lethrau'r Wyddfa yn flynyddol.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn dweud ei fod yn annhebygol y bydden nhw'n cefnogi cynllun o'r fath.

400,000 o gerddwyr

Mae mwy na 400,000 o bobl yn cerdded Yr Wyddfa pob blwyddyn, a dros 200,000 yn mynd i fyny ar y tr锚n.

Yn 么l Mr Watkin, byddai 拢10 yn bris teg i gerdded i fyny mynydd uchaf Cymru.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Gwynedd Watkin bod 拢10 yn "bris teg" i gerdded Yr Wyddfa

Dywedodd Mr Watkin: "Er mwyn ceisio sicrhau digon o incwm i allu parhau i wneud gwaith cynnal a chadw llwybrau byddai angen creu rhyw fath o system adnabod fel bod cerddwyr yn gallu dangos trwydded i'r wardeiniaid pe bai angen."

Ychwanegodd: "Ar ddiwedd y dydd os 'da chi'n gallu talu 拢50 i fynd i weld cyngerdd, opera neu g锚m b锚l-droed er enghraifft, be' fase 拢10 o'i gymharu 芒 hynny am ddiwrnod cyfan o adloniant ar y mynydd?"

'Problemau ymarferol'

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy'n gofalu am Yr Wyddfa ac yn 么l llefarydd ar eu rhan, Jonathon Cawley mae'n annhebygol y byddai'r corff yn cefnogi cynllun o gael cerddwyr i dalu.

"Dwi'n falch iawn fod holl fater cynnal a chadw'r llwybrau'n cael ei drafod," meddai.

"Mae 'na bwysau cynyddol ar Yr Wyddfa felly mae'n bwysig eistedd i lawr a thrafod gwahanol syniadau.

"O ran y syniad o drwyddedu dwi'n meddwl bod 'na broblemau ymarferol a chyfreithiol.

"Dwi ddim yn si诺r y byddai'n rhywbeth y byddai awdurdod y parc yn ei gefnogi, ond dwi'n meddwl bod o'n bwysig bod ni'n trafod y gwahanol opsiynau."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Jonathon Cawley yn falch bod opsiynau gwahanol o ariannu costau cynnal Eryri yn cael eu trafod

Ychwanegodd: "Ar hyn o bryd rydyn ni'n gwario rhyw 拢250,000 ar gynnal a chadw llwybrau ar Yr Wyddfa, ond mewn gwirionedd mae angen gwario miliynau o bunnoedd i wneud y gwaith yn iawn, a dydi arian fel'na ddim gennym ni."

Mae 'na gynllun peilot o'r enw Rhodd Eryri wedi bod yn rhedeg ers chwe mis, lle mae'r cyhoedd yn gallu cyfrannu tuag at warchod Eryri.

Mewn cyfarfod yn Llanberis nos Lun cyhoeddwyd fod bron i 拢3,500 wedi ei gasglu ar gyfer y cynllun. Mae'n debygol iawn y bydd cynlluniau fel hyn yn dod y fwy pwysig yn y dyfodol wrth i gyllidebau awdurdodau a chynghorau wynebu mwy o straen.