大象传媒

Cyhoeddi cronfa o 拢36m i leihau maint dosbarthiadau

  • Cyhoeddwyd
Maint dosbarthiadau

Mae'r Ysgrifennydd Addysg wedi cyhoeddi cronfa newydd gwerth 拢36m er mwyn lleihau maint dosbarthiadau babanod mewn ysgolion cynradd.

Dywedodd Kirsty Williams mai'r nod yw codi safonau ac ehangu cyfleoedd i blant a phobl ifanc.

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod dros 7% o ddisgyblion ifanc yng Nghymru mewn dosbarthiadau sy'n cynnwys mwy na 30 o blant.

Y blynyddoedd cynnar mewn ysgol yw'r pwysicaf os am roi'r dechreuad gorau mewn addysg i blant, medd arbenigwyr.

Yn 么l y rheolau, ar wah芒n i rai sefyllfaoedd eithriadol, ni ddylai dosbarth ar gyfer plant hyd at saith oed yng Nghymru gynnwys dros 30 o ddisgyblion, lle mae un athro'n unig yn gyfrifol am y dysgu.

Ond yn 么l yr ystadegau diweddaraf, mae bron i 8,200 o ddisgyblion yng Nghymru mewn dosbarth sydd 芒 mwy na 30 o blant - 7.6% o ddisgyblion.

Bydd 拢36m ar gael dros y pedair blynedd nesaf i geisio gwella'r sefyllfa.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Codi safonau ac ehangu cyfleoedd i blant a phobl ifanc yw'r nod, medd Kirsty Williams

Yn 么l Ms Williams, mae hi'n ymateb i bryderon rhieni sydd wedi dweud wrthi eu bod yn poeni am nifer y plant mewn dosbarthiadau.

Wrth gyhoeddi'r gronfa newydd, dywedodd fod tystiolaeth ryngwladol yn dangos bod cysylltiad rhwng lefelau cyrhaeddiad disgyblion a dosbarthiadau sy'n llai o ran maint, a hynny yn enwedig i blant o gefndiroedd llai breintiedig.

Bydd y cyllid, sy'n gymysgedd o arian refeniw a chyfalaf, yn cael ei dargedu mewn cymunedau difreintiedig ac ysgolion ble mae angen gwella.

Fe fydd y gronfa ar gael nes 2021, gyda'r bwriad, meddai Ms Williams, o ganiat谩u lle i athrawon i addysgu ac i blant i ddysgu.