ACau yn galw am ymchwiliad i 'sgandal gwaed heintiedig'
- Cyhoeddwyd
Mae gr诺p o aelodau Cynulliad wedi dweud bod angen ymchwiliad cyhoeddus i'r "sgandal gwaed heintiedig" ddigwyddodd yn niwedd y 1970au a'r 80au.
Fe ddatblygodd miloedd o bobl ym Mhrydain hepatitis C a HIV ar 么l cael gwaed oedd wedi ei heintio gan roddwyr gwaed.
Llynedd fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai cymorth ariannol ychwanegol ar gyfer cleifion yng Nghymru oedd wedi eu heffeithio.
Mae'r ACau eisiau i Lywodraeth y DU gynnal ymchwiliad a bydd y mater yn cael ei drafod mewn cyfarfod llawn o'r Cynulliad ddydd Mercher.
Yng Nghymru cafodd 280 o bobl eu heintio a bu 70 farw.
Iawndal 'annigonol'
Cafodd David Thomas o Benarth ei heintio gan hepatitis C yn yr 80au.
Dywedodd wrth raglen Good Morning Wales: "Dydych chi ddim yn gallu cael yswiriant bywyd, a digonol ar y gorau yw'r iawndal sydd yn cael ei gynnig gan y llywodraeth".
Mae'n dweud iddo gael 拢20,000 yn 1990 a bod adolygiad diweddar o'r cynllun yn golygu ei fod yn derbyn 拢3,500 yn flynyddol.
Ond mae'n credu nad yw hyn yn ddigon: "Mae yna bosibilrwydd... y gallen ni ddatblygu sirosis felly mae'n rhaid i chi newid eich ffordd o fyw.
"Mae rhai sydd ddim yn gallu gweithio ac yn ceisio cael taliadau elusennol pan ddylen nhw fod yn derbyn iawndal go iawn."
'Dim digon o gefnogaeth'
Yn 么l yr AC Llafur, Julie Morgan, cadeirydd y gr诺p trawsbleidiol ar hemoffilia a gwaed wedi'i heintio, does yna ddim digon o gefnogaeth i gleifion a'u teuluoedd.
Ym mis Ionawr 2016 fe ddywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn ystyried cynyddu'r taliad i'r rhai sydd wedi eu heffeithio.
Mae 大象传媒 Cymru wedi gofyn iddyn nhw am sylw.