大象传媒

Undebau yn cefnogi cytundeb pensiwn Tata

  • Cyhoeddwyd
Tata
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Tata yn cyflogi bron i 7,000 o bobl yng Nghymru, gan gynnwys mwy na 4,000 ym Mhort Talbot

Mae undebau wedi argymell gweithwyr Tata yn eu gweithfeydd dur yn y DU i bleidleisio o blaid cynnig fydd yn cynnwys newid i'w hamodau pensiwn.

Mae'r tri undeb yn dweud bod problemau yn deillio o'r cynnig ond mai dyma'r "unig ffordd gredadwy ac ymarferol i sicrhau dyfodol."

Mae'r cytundebau ar newid i'r pensiynau yn cael eu gweld yn hanfodol ar gyfer buddsoddiad gwerth biliwn o bunnau ym Mhort Talbot yn ystod y ddeg mlynedd nesaf.

Mae disgwyl pleidlais ar y cynnig presennol ddydd Llun.

Canlyniad gorau

Yn y gorffennol mae'r undebau wedi bod yn dweud mai penderfyniad personol i'r gweithwyr oedd y pensiwn.

Ddydd Iau nododd datganiad ar y cyd gan undebau Unite, GMB a Community nad penderfyniad ysgafn oedd yr argymhelliad newydd.

"Does neb yn dweud bod y cynnig heb ei broblemau. Rydym yn deall pryderon yr aelodau, yn enwedig ynghylch cynllun pensiwn Dur Prydain (BSPS).

"Ond dyma'r casgliad yr ydym wedi dod iddo ar y cyd - mae ein penderfyniad wedi cael cefnogaeth arbenigwyr ariannol - hyd y gwelwn ni dyma'r ffordd orau i sicrhau dyfodol."

Osgoi diswyddo gorfodol

Cafodd yr ymgynghoriad ar newidiadau i'r pensiwn eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr gyda'r bwriad i osgoi diswyddo gorfodol am bum mlynedd. Hyderir hefyd y bydd y newid yn creu buddsoddiad am gyfnod o ddeg mlynedd.

Mae'r cynlluniau newydd yn golygu na fydd cyfanswm Tata at y pensiwn yn fwy na 10% ac ni fydd hawl gan y gweithwyr gyfrannu mwy na 6%.

Roedd y cynnig gwreiddiol yn cynnwys cynllun pensiwn newydd gyda chyfraniadau o 3% yn unig gan Tata a 3% gan y gweithwyr.