大象传媒

Cyhoeddi cadeirydd panel Diwygio Etholiadol y Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
Laura McAllister
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Laura McAllister yn Athro yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae'r Athro Laura McAllister wedi cael ei phenodi yn gadeirydd ar banel Cynulliad fydd yn edrych ar ddiwygio etholiadol yng Nghymru.

Bydd y panel arbenigol yn ystyried a ddylid cynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad ym Mae Caerdydd, yn ogystal 芒 pha system ddylai gael ei ddefnyddio i'w hethol.

Bydd yr aelodau hefyd yn ystyried a ddylai'r oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau'r Cynulliad gael ei ostwng i 16.

Dywedodd y Llywydd Elin Jones y byddai gwaith y panel yn "hanfodol" wrth i'r Cynulliad dderbyn pwerau newydd yn sgil pasio Mesur Cymru.

'Cefnogaeth drawsbleidiol'

Bydd gr诺p o ACau o bob plaid yn cael ei sefydlu fydd yn trafod gwaith y panel, gyda'r bwriad sicrhau bod yr argymhellion terfynol yn rai fydd yn denu digon o gefnogaeth.

Ychwanegodd Elin Jones: "Byddaf yn gweithio'n agos gyda'r Prif Weinidog a'r pleidiau gwleidyddol sy'n cael eu cynrychioli yn y Cynulliad i adeiladu a chynnal cefnogaeth drawsbleidiol eang."

Yn ogystal 芒'r Athro McAllister mae aelodau eraill y panel yn cynnwys yr Athro Rosie Campbell, yr Athro Sarah Childs, Rob Clements, yr Athro David Farrell, Dr Alan Renwick, a Syr Paul Silk - sydd yn y gorffennol wedi cadeirio comisiwn a wnaeth ystyried pwerau'r Cynulliad.

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad dywedodd mudiad ERS Cymru, sydd o blaid diwygio etholiadol, bod angen i'r Cynulliad gael "niferoedd digonol" i ddelio 芒 materion megis Brexit fydd yn cael "effaith sylweddol ar Gymru".