Dyblu'r 'n': Pam a phryd
- Cyhoeddwyd
Mae ceisio darganfod beth yn union yw'r rheolau wrth ddyblu 'n' bron wedi bod yn drech na ni yn 大象传媒 Cymru Fyw ond gobeithio bod y fideo yma yn help.
Ac os ydych chi eisiau barn Geraint Lovgreen am y cyfan, gwrandewch ar y clip isod.
Roedd Geraint yn siarad ar raglen Aled Hughes, Radio Cymru, ar 么l bod yn trafod ei erthygl am reolau to bach ar Cymru Fyw.
Meddai Geraint:
"Mae eisiau sgrapio dwy 'n' yn gyfan gwbl - mae'n wast o amser - wast o inc!
"Ond mae na reswm - er enghraifft y gair 'tanau', mwy nag un 't芒n' ydy 'tanau' efo un 'n', mwy nag un tant - er enghraifft ar delyn - ydy 'tannau' efo dwy 'n'. Mae'r 'nt' yn troi'n 'nn'.
"Yn y de maen nhw yn gwahaniaethu, maen nhw'n dweud ta-a-anau a tanau.
"Felly maen nhw yn gwahaniaethu rhwng y sain.
"Ond fysen ni'n gallu cael gwared ar y ddwy 'nn' a rhoi to bach ar ben t芒nau.
"Roedd Iolo Morganwg yn sillafu ei enw efo un 'n' ond mae sir Morgannwg efo dwy 'n'.
"Eifionydd - un 'n' ond Meirionnydd dwy 'n' - mae hynny'n dangos bod yr holl beth yn ddiystyr!"