大象传媒

Cynllun 拢600m i 'drawsnewid gofal' yn y de orllewin

  • Cyhoeddwyd
PentrefFfynhonnell y llun, Hywel Dda/Arch
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Byddai'r pentref llesiant yn costio 拢225m

Does dim modd i'r gwasanaeth iechyd yn ne orllewin Cymru barhau i ddarparu gwasanaethau ar yr un patrwm ac sydd wedi bodoli am 70 mlynedd.

Dyna rybudd penaethiaid iechyd sy'n dweud fod newidiadau cam-wrth-gam ddim yn ddigon bellach i ddelio gyda'r pwysau aruthrol ar wasanaethau.

Fe fydd cynlluniau i drawsnewid gofal yn y rhanbarth - cynlluniau sydd ymhlith y mwyaf uchelgeisiol erioed yng Nghymru - yn cael ei hystyried gan Lywodraeth Cymru cyn bo hir.

Mae'r cynlluniau wedi eu datblygu fel rhan o bartneriaeth "cwbl unigryw" rhwng Byrddau Iechyd Abertawe Bro Morgannwg, Hywel Dda a Phrifysgol Abertawe.

Mae'r prosiect "Arch" yn cynnwys:

  • Ehangu Ysbyty Treforys - fe fyddai'r ysbyty yn bennaf yn trin cleifion aciwt (rhai sydd angen aros dros nos mewn ysbyty)

  • Sefydlu campws gwyddorau bywyd ar 55 acr o dir drws nesaf i'r ysbyty - gyda'r nod o ddenu cwmn茂au bio-wyddorau lleol a rhyngwladol

  • Sefydlu academi iechyd a llesiant ger Ysbyty Singleton sy'n golygu byddai'r ysbyty yn datblygu'n ganolfan arbenigol ar gyfer gofal dydd a phrofion diagnostig.

Ond nid adrefnu gwasanaethau gofal yw'r unig amcan.

Disgrifiad,

Meryl Gravell sydd yn esbonio sut y bydd y pentref llesiant o fudd i'r gymuned gyfan

Yn ganolog i'r prosiect mae datblygu cyfleusterau sy'n caniat谩u i unigolion fyw'n iachach a chael gofal yn nes i'w cartrefi.

Un o'r elfennau mwyaf uchelgeisiol yw adeiladu Pentref Llesiant, mewn cydweithrediad a Chyngor Sir Gar- ar hen safle diwydiannol yn Llanelli, fyddai yn cynnwys canolfan hamdden, meysydd chware a pharciau, canolfan iechyd cymunedol, canolfan adferiad a chartrefi gofal.

Fe fyddai gwesty llesiant hefyd yno gyda'r nod o ddenu twristiaid.

Mae'r cynghorydd Meryl Gravell yn un o arweinwyr y prosiect ac yn gyn arweinydd Cyngor Sir Gar.

"Fel dechreuodd e, bod gyda ni fel cyngor arian i adeiladu gwesty a hefyd canolfan hamdden...O'n i yn teimlo bod y ganolfan hamdden yn mynd i fod yn lot mwy na jest canolfan, bod pobl yn mynd yna.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y safle ar hyn o bryd a'r cynlluniau ar gyfer y pentref llesiant

"Falle bydde mam a dad neu mam-gu a thad-cu yn mynd a'u hwyrion a tra bod y plant yn nofio falle bydden nhw yn gallu profi pwyse gwaed neu bob math o bethe."

"Dyw'r gwasanaeth iechyd ddim yn cadw ni'n iach. Dyna'r broblem.

"Beth sydd eisiau i ni wneud ydy addysgu pobl i fel mae edrych ar 么l eu hiechyd a chadw yn heini a chadw yn iach a fyddwn ni yn gwario lot llai o arian i wella pobl, ar 么l iddyn nhw fynd yn glaf."

Yn 么l Cadeirydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Bernardine Rees, y gobaith yw y bydd y prosiect hefyd yn hwb wrth geisio denu rhagor o feddygon a staff iechyd i weithio yng ngorllewin Cymru.

"Mae gyda ni ysgol glinigol yn Abertawe ac ysgol feddygol.

"Fe allen ni weithio gyda'n pobl ifanc i'w hannog nhw i fod eisiau cymhwyso, cael eu gradd yn Abertawe, ond gweithio yn lleol, gweithio gartref oherwydd mae gyda ni gyfle unigryw i gael model o ofal dinesig ond hefyd gwledig."

Disgrifiad,

Marc Clement

Un o brif amcanion y prosiect yw ceisio cael y gwasanaeth iechyd a chwmn茂au preifat i gydweithio'n agosach.

Ac yn 么l yr Athro Marc Clement - Is Lywydd Prifysgol Abertawe - mae dylanwad y brifysgol yn allweddol wrth geisio annog hynny.

"Rwy'n credu bod rhaid cymryd cam anferth dros y gorwel fel bod ni yn delio gyda phroblemau fory nawr, ddim delio gyda phroblemau heddi gan bwyll."

Ffynhonnell y llun, Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Byddai ysbyty Treforys yn delio gyda chleifion aciwt

"Wy'n gweld fel Cymru, un o'r pethau sydd yn nodweddiadol o fywyd Cymreig yw'r sylos ma.

"I ni ddim yn hoff iawn o gydweithredu a gweithio mewn partneriaethau. Un o'r pethau mae ARCH yn neud yw ceisio cael gwared 芒'r mur rhwng gwasanaethau cyhoeddus."

"Mae prifysgol gyfoes, a bydden ni yn dweud bod Abertawe yn enghraifft ardderchog o brifysgol gyfoes, yn gorfod gweithio gyda'r sector breifat, yn gorfod symud ar gyflymder mae'r gwasanaeth iechyd ddim yn gyfarwydd ag symud, yn gorfod pwyso'r risg a phwyso yn ofalus ond wedyn penderfynu a symud.

"Ac mae'r gwasanaeth iechyd ddim yn gyfforddus iawn a'r egwyddorion hynny.

"Felly mae'n bosib bod cyfraniad o ddau fwrdd iechyd a phrifysgol gyfoes, ddeinamig yn gallu gwneud rhywbeth newydd, cryf."

Ond mae'n cydnabod fod 'na densiynau ynghlwm 芒'r cynllun.

"Pe bai rhywun yn rhoi'r argraff i chi bod hyn yn hawdd a'r m么r yn llyfn - fe fyddai hynny'n camarwain. Mae 'na drafodaethau cadarn yn digwydd y tu 么l i ddrysau caeedig.

Ffynhonnell y llun, Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y bwriad gydag Ysbyty Singleton yw bod gofal dydd a phrofion diagnostig yn cael eu cynnig yno

"Ond mae'r wobr yn anferth ac mae 'na ddyletswydd arnom ni i gyflawni hyn."

Y gobaith yw y bydd y prosiect yn creu dros 2,500 o swyddi ac yn cyfrannu dros 拢350 i economi'r de orllewin dros gyfnod o 10 mlynedd.

Ond mae sawl elfen o'r cynllun yn ddibynnol ar Lywodraeth Cymru yn rhoi ei s锚l bendith i Fargen Ddinesig Bae Abertawe.

Mae disgwyl penderfyniad o fewn yr wythnosau nesaf.