Ffatri Ford Pen-y-bont: Undeb yn galw am sicrwydd
- Cyhoeddwyd
Mae undeb Unite wedi rhoi pythefnos i gwmni Ford greu cynllun pum mlynedd ar gyfer ei ffatri ym Mhen-y-bont.
Fe wnaeth yr ymgeisydd am Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb, Len McCluskey gwrdd 芒 rheolwyr yn y ffatri ddydd Mawrth.
Fe wnaeth Ford gyhoeddi ychydig fisoedd yn 么l ei fod yn torri ar ei gynlluniau i fuddsoddi yn y math o injan sy'n cael ei adeiladu yn y ffatri, ond na fyddai hyn yn cael effaith ar swyddi.
Dywedodd Mr McCluskey wrth 大象传媒 Cymru ei fod yn gobeithio na fydd yn rhaid gweithredu'n ddiwydiannol.
'Pesimistiaeth'
"Mae tipyn o besimistiaeth am hyn y mae'r cwmni yn ei gynllunio," meddai.
"Oes yna agenda cudd i gau'r ffatri? Rydyn ni eisiau iddyn nhw ddangos nad dyma'r achos, a'u bod yn gweithio'n galed, ac fe wnawn ni weithio gyda nhw."
Dywedodd Mr McCluskey ei fod eisiau sicrwydd am ddyfodol y ffatri, ac y byddai'r undeb yn gwneud popeth yn ei allu i'w achub.
Ychwanegodd y byddai cyfarfod yn cael ei gynnal ar 1 Mawrth pe na bai'r undeb yn clywed gan Ford.
Fe wnaeth y cwmni gyhoeddi yn 2015 y byddai ei ffatri ym Mhen-y-bont yn adeiladu ei injan newydd, Dragon, gyda'r gobaith o adeiladu 250,000 injan pob blwyddyn.
Ond ym mis Medi cyhoeddwyd y byddai'r nifer yn cael ei haneru i 125,000 pob blwyddyn, ac y byddai buddsoddiad y cwmni'n gostwng o 拢181m i 拢100m.
Mae gan y ffatri'r gallu i adeiladu tua 750,000 injan yn flynyddol, ac mae Unite yn pryderu mai dyma ddechrau'r diwedd i'r ffatri.
Dywedodd Mr McCluskey ei fod yn dechrau codi "amheuon difrifol" am os all ffatri o'r maint yma fod yn gynaliadwy yn creu cyn lleied o gynnyrch.