大象传媒

'Bwlch' yn nulliau digartrefedd Llywodraeth Cymru

  • Cyhoeddwyd
Digartrefedd

Mae bwlch yn nulliau Llywodraeth Cymru wrth ymateb i'r cynnydd yn nifer y bobl sy'n ddigartref, medd elusennau.

Mae ffigyrau yn dangos cynnydd o 72% yn nifer y digartref dros gyfnod o flwyddyn hyd at fis Tachwedd 2016.

Yn 么l elusen Wallich dydi agenda atal digartrefedd y llywodraeth ddim wedi "cymryd i ystyriaeth y rheiny sydd yn cysgu ar y stryd".

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud nad oes modd cymharu arolygon 2015 a 2016 yn uniongyrchol, gan gyfaddef fodd bynnag bod "mwy i'w wneud" ar ddigartrefedd.

Yn dilyn un noson o gyfrif ym mis Tachwedd, fe wnaeth ffigyrau ddangos bod 141 o bobl yn cysgu ar strydoedd Cymru, o'i gymharu gyda 82 flwyddyn ynghynt.

Fe wnaeth ymgyrch gyfrif arall dros gyfnod o bythefnos ddangos fod 313 o bobl yn cysgu ar y stryd o'i gymharu gyda 240 yn 2015.

'Disgyn mewn i dwll'

Dywedodd Mia Rees o elusen Wallich wrth raglen Sunday Politics Wales 大象传媒 Cymru: "Y rheswm mae cynnydd yw bod y llywodraeth wedi bod yn canolbwyntio ar sut i atal digartrefedd yn hytrach nag ystyried y rheiny sydd yn cysgu ar strydoedd.

"Mae rhaid cael ymchwil yn edrych ar y niferoedd yn iawn, a sut mae'r bobl wedi dod yn ddigartref, a sut i'w cael nhw'n 么l i fyw mewn llety cynaliadwy.

"Dwi'n teimlo bod 'na fwlch ar hyn o bryd yn sut mae Llywodraeth Cymru yn edrych ar bethau yn y maes yma."

Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i weithio gyda phobl sydd dan fygythiad o golli eu cartref.

Dywedodd rheolwraig ymgyrchu elusen Shelter Cymru, Jennie Bibbings: "Rydym yn well am atal digartrefedd nag oedden ni, ond dydyn ni ddim mor dda am helpu unwaith mae rhywun wedi disgyn mewn i dwll o fod yn gorfod cysgu ar y stryd."

'Mwy i'w wneud'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er ein bod ni'n cydnabod bod y nifer o bobl oedd yn cysgu ar y stryd yn yr ymarferiad yn 2016 yn uwch na'r blynyddoedd cynt, does dim modd cymharu'n uniongyrchol oherwydd gwahaniaethau rhwng amseru, methodoleg a maint yr arolwg."

Ychwanegodd y llefarydd bod deddfwriaeth newydd "eisoes wedi helpu 3,500 o unigolion oedd eisoes yn ddigartref a 3,100 o unigolion oedd dan fygythiad o fod yn ddigartref".

"Rydyn ni'n cydnabod bod mwy i'w wneud ac rydyn ni'n disgwyl i awdurdodau lleol ganolbwyntio ar leddfu digartrefedd ble bynnag sy'n bosib.

"Yn ddiweddar fe gyhoeddon ni bron i 拢8m ar gyfer rhaglen atal digartrefedd a hefyd i gyllido llety dros dro a darparu cefnogaeth i bobl ddigartref sydd yn ceisio adennill eu hannibyniaeth."

Bydd rhaglen Sunday Politics Wales yn cael ei dangos ar 大象传媒 One Wales ddydd Sul 12 Chwefror am 11:00.