大象传媒

Annog 'mabwysiadu arferion mwy iach' i drechu dementia

  • Cyhoeddwyd
GofalFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae Llywodraeth Cymru yn lansio ymgyrch gyda'r nod o leihau risg pobl o ddatblygu dementia o 60%.

Dywedodd bod mwy na 42,000 yn cael eu trin am y cyflwr yng Nghymru.

Bydd yr Ymgyrch i Leihau Risg Dementia yn cael ei lansio ddydd Gwener, gyda sioe deithiol 10 diwrnod yn ymweld 芒 nifer o safleoedd ledled Cymru.

Nod y cynllun yw annog pobl i fabwysiadu arferion mwy iach.

Daw'r ymgyrch yn dilyn ymchwil gan Yr Athro Peter Elwood o Brifysgol Caerdydd, wnaeth ddarganfod y gall byw bywyd iach leihau'r risg o ddatblygu dementia cynnar.

'Camau syml'

Ym mis Ionawr, dywedodd y Gymdeithas Alzheimer's bod arbenigwyr yn pryderu y gall nifer y bobl sy'n dioddef o ddementia gynyddu 40% dros y degawd nesaf.

Y cyflwr yw prif achos marwolaethau yng Nghymru a Lloegr bellach, ac mae'n costio 拢1.4bn pob blwyddyn yng Nghymru, medd y gymdeithas.

Dywedodd y Gweinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Cyhoeddus, Rebecca Evans: "Mae'r risg o gael dementia'n cynyddu gydag oedran ac wrth i fwy a mwy o bobl fyw i fod yn h欧n, bydd y nifer o bobl fydd yn datblygu dementia hefyd yn cynyddu.

"Dyma gamau syml y gall pobl eu cymryd nid yn unig er mwyn lleihau eu risg o gael dementia, ond cyflyrau eraill hefyd, fel canser, clefyd y galon a str么c.

"Mae'r neges yn glir - paid ag aros; gwna fe heddiw i leihau dy risg."