大象传媒

Pier Bae Colwyn i gael ei ddatgymalu a'i storio

  • Cyhoeddwyd
Pier Bae Colwyn

Bydd pier Bae Colwyn yn cael ei ddatgymalu a'i storio wedi i ran ohono ddisgyn i'r m么r.

Roedd y strwythur Fictoraidd eisoes wedi ei gau i'r cyhoedd am resymau diogelwch pan ddisgynnodd rhan ohono ar 1 Chwefror.

Nawr mae Cyngor Sir Conwy ac Ymddiriedolaeth Fictoraidd Colwyn wedi cytuno y dylid ei dynnu i lawr cyn i fwy o ddifrod gael ei wneud.

Y bwriad yw atgyweirio ac adfer y pier rywbryd yn y dyfodol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ardal waharddiedig o amgylch y pier

Ar hyn o bryd mae'r cyngor yn ystyried adroddiad ar sut i wneud y strwythur sydd yn weddill yn saffach.

Dywedodd prif weithredwr Cyngor Sir Conwy, Iwan Davies bod disgwyl penderfyniad ar y pier rhestredig Gradd II "yn fuan iawn".

Gobaith yr Ymddiriedolaeth yw gweld y pier yn cael ei ailddatblygu yn hwb ar gyfer "bwyd, diod a digwyddiadau".

Mae disgwyl i'r cyngor ystyried cynigion ar gyfer y pier cyn diwedd mis Mawrth.

Ffynhonnell y llun, STEVEN THOMAS/ROBY AERIAL