Cymeradwyo cynllun datgymalu a storio pier Bae Colwyn
- Cyhoeddwyd
Mae Cabinet Cyngor Conwy wedi rhoi s锚l bendith i gynllun i ddatgymalu pier Bae Colwyn ar 么l i ran o'r safle hanesyddol ddisgyn i'r m么r.
Mae strwythur Pier Victoria yn parhau i fod yn beryglus, ond bwriad y cyngor yw achub rhannau sydd o werth hanesyddol, eu catalogio a'u cadw rhag ofn y bydd penderfyniad yn y dyfodol i ail-adeiladu.
Yn ystod y cyfarfod ddydd Mawrth, clywodd aelodau y gallai'r pier gael ei golli'n barhaol os na fydd camau i fynd i'r afael a'r mater yn syth.
Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Roberts, arweinydd y cyngor: "Gan ystyried yr angen i gydbwyso cyfrifoldebau'r awdurdod tuag at statws rhestredig y pier a diogelwch y cyhoedd, cytunodd y cabinet y dylai'r gwaith argyfwng gael ei wneud er mwyn atal unrhyw ddirywiad pellach o'r strwythur rhestredig."
Mae disgwyl i'r gwaith gymryd tair wythnos, a bydd trefniadau diogelwch yn parhau mewn lle er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2017