大象传媒

Dysgu gwers i Colin

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Yr actor Jonathan Nefydd yn cael gwers iwcalele gan Mei Gwynedd, er mwyn swyno Britt

Noson San Ffolant ar Pobol y Cwm, bydd Colin yn ceisio swyno Britt ar yr iwcalele gyda ch芒n mae wedi cyfansoddi ei hun.

Ond fel 'ni gyd yn ymwybodol, 'dyw realiti ddim o hyd yn dilyn straeon oper芒u sebon, ac roedd gan y cynhyrchwyr un broblem amlwg - doedd yr actor Jonathan Nefydd, sy'n chwarae rhan Colin, erioed wedi canu'r iwcalele.

Mei Gwynedd, gynt o'r Big Leaves a Sibrydion, gafodd y profiad unigryw o ddysgu 'Colin' sut oedd ennill calon Britt (Donna Edwards) drwy hud a lledrith yr iwcalele. Tasg oedd yn eithaf pleserus yn 么l Mei.

"Roedd Jonathan yn gwmni da ac yn ddysgwr cyflym," meddai. "Dim ond rhyw bedair sesiwn hanner awr gymerodd iddo ddysgu'r g芒n ar yr iwcalale a'i ganu hefyd, felly dwy awr, i roi pedwar cord at ei gilydd a chanu - sydd yn eithaf da."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ydy Britt wedi clywed y g芒n yn barod?

Ond ydy Jonathan Nefydd yn cytuno?

"O'dd e'n eithaf caled - fues i'n ymarfer am oriau," yw ei eiriau cyntaf. "O'n i'n mynd ar nyrfs pawb yn y t欧 ac yn y dressing room achos o'n i'n mynd dros yr un g芒n, a'r un chords drosodd a throsodd. Ond o'dd e'n ffordd dda o gael heddwch!

"Dwi ddim yn gerddorol o gwbl. O'n i'n arfer chwarae'r dryms i fand o'r enw Mabinogi pan yn ifancach, ond erioed wedi canu unrhyw beth 芒 llinyn, ac felly roedd hwn yn eitha' tyff.

"Ond o'n i'n benderfynol o'i gael yn iawn, er mwyn Mei, sydd wedi ysgrifennu c芒n hyfryd i mi berfformio, ond hefyd er mwyn y gyfres a'r cymeriad, achos mae'n braf fod Colin yn gwneud rhywbeth mor neis ac o'r galon."

"Ond chwarae offeryn dieithr a chanu... ar yr un pryd! Hynna oedd yn anodd. O'n i'n OK ar yr iwcalele, o'n i'n OK am ganu... ond y ddau gyda'i gilydd... Wel, oedd e'n medru mynd bach yn ffradach!"

'Offeryn perffaith'

Ond yn ei fywyd pob dydd, mae Mei Gwynedd yn weithgar iawn mewn cyflwyno cerddoriaeth i fywydau pobl sy'n cyfri eu hunain yn angherddorol.

"Fi'n gwylltio pan fydd rhywun yn dweud fod nhw ddim yn deall cerddoriaeth," meddai. "Mae'r iwcalele yn offeryn perffaith i bobl ddysgu a chymryd cam cyntaf i fwynhau creu cerddoriaeth."

Mae Mei hefyd yn cynnig gwersi iwcalele yng Nghaerdydd, sy'n profi'n boblogaidd iawn.

"Mae'r range oedran yn mynd o 16 i 85 gyda rhai pobl sy'n gerddorion... rhai wedi bod mewn bandiau enwog Cymraeg hyd yn oed, ac eraill sydd 芒 dim clem... neu efallai oedd 芒 dim clem."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Colin (Jonathan Nefydd) yn mynd i ysbryd y darn

Ond a fydd Jonathan Nefydd yn ymuno 芒'r gr诺p yn y dyfodol?

"Mae Mei wedi ceisio fy mherswadio i ymuno 芒'r gerddorfa iwcalele, ond dwi ddim yn mynd i! Chware' teg, maen nhw'n mynd yn eithaf da ar hyn o bryd, a dwi ddim eisiau tynnu nhw 'n么l tair blynedd."

Ond sut brofiad oedd hi i ganu yn Y Deri o flaen ei gyd weithwyr?

"Ar y dydd roedd hi'n eithaf neis, jest Colin a Britt wrth y bar. Cofia, efallai bod 'na reswm arall pan fod neb eisiau bod yn Y Deri er mwyn clywed fy mherfformiad.

"Dweud y gwir, falle bod fy nhiwnio i bach mas... ond sut fyddai neb yn medru dweud?"

Pobol y Cwm, S4C, nos Fawrth am 20:00