Darlledu cynhyrchiad Cymraeg Macbeth yn fyw mewn sinem芒u
- Cyhoeddwyd
Mae un o gynyrchiadau y Theatr Genedlaethol wedi'i ddarlledu'n fyw i sinem芒u am y tro cyntaf erioed.
Fe wyliodd cynulleidfaoedd mewn 11 o sinem芒u ledled Cymru y cynhyrchiad o Macbeth yn fyw o Gastell Caerffili nos Fawrth.
Fe fydd ail ddangosiadau gydag isdeitlau Saesneg yn parhau yn y sinem芒u hyd at fis Ebrill.
Richard Lynch a Ffion Dafis sy'n serennu yn addasiad y diweddar Gwyn Thomas o un o ddram芒u enwocaf Shakespeare.
Arloesol
Dywedodd y cyfarwyddwr artistig, Arwel Gruffydd, bod rhaid i'r cwmni arbrofi a chyrraedd cynulleidfaoedd ehangach: "Fel cwmni cenedlaethol mae'n bwysig ein bod ni yn arloesol, ac ein bod ni yn treialu mentrau newydd.
"Falle bydd cwmn茂au eraill yn y dyfodol yn gallu buddio ohono, ac mi fyddwn ni'n falch iawn o rannu profiad cyn belled a bod y darlledu byw 'ma yn y cwestiwn."
Mae'r ddrama, sydd wedi cael ei pherfformio ers 7 Chwefror, wedi'i lleoli yn 'stafelloedd Castell Caerffili.
Mae 'na le ar gyfer 100 o gynulleidfa bob nos, ac mae'r tocynnau eisoes wedi gwerthu allan.
Yn 么l Mr Gruffydd mae darlledu i'r sinem芒u yn agor drysau i gynulleidfa newydd.
"Nid pawb sy'n gallu dod i Gaerffili, nid pawb chwaith sydd yn gallu ymweld 芒 chestyll hynafol oherwydd problemau anabledd ac yn y blaen.
"Ac felly roedd e'n bwysig i ni ein bod ni yn rhoi'r cynhyrchiad yma, a'r cyfieithiad bendigedig yma o Macbeth, ar gael i gynulleidfaoedd ar draws Cymru.
"Dyna pam wnaethon ni fentro i'r byd darlledu byw ar y cynhyrchiad yma.
"Gyda'r ailddarllediad... mi oedd e'n bwysig ein bod ni yn cynnig y cynhyrchiad hefyd i'r rhai di-Gymraeg felly mi fydd yna isdeitlau ar yr ail ddangosiadau ym mhob canolfan."
Sinem芒u sy'n ail-ddangos Macbeth:
Chapter (Caerdydd)
Pontio (Bangor)
Galeri Caernarfon
Neuadd Dwyfor (Pwllheli)
Theatr Colwyn (Bae Colwyn)
Theatr Clwyd (Yr Wyddgrug)
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Theatr y Torch (Aberdaugleddau)
Neuadd Les Ystradgynlais
Canolfan Celfyddydau Taliesin (Abertawe)
Glan yr Afon (Casnewydd)
Theatr Mwldan (Aberteifi)
Theatr Ardudwy (Harlech)
CellB (Blaenau Ffestiniog)
Mae'r cynhyrchiad wedi derbyn adolygiadau ffafriol ar y cyfan.
"" fel yr Arglwyddes Macbeth, yn 么l y beirniad Sioned Williams yn ei adroddiad i raglen Dewi Llwyd, er i ambell olygfa ymddangos yn "ystrydebol o ran y llwyfanni".
Yn 么l adolygiad Lowri Haf Cooke mae'r cynhyrchiad yn "" a Richard Lynch yn "disgleirio o flaen y dorf".
Mae Lynch yn 么l yn ei fro enedigol er mwyn actio rhan Macbeth, ac mae'n dweud bod y darllediadau i'r sinem芒u yn rhoi'r Theatr Genedlaethol ar lefel gyfartal a'r prif gwmn茂au dros Glawdd Offa.
"Rwy'n credu bod e'n bwysig bod nhw'n delio gyda'r byd cyfoes theatrig fel y mae hi. Os ydy National Theatre yn Lloegr yn gallu gwneud rhywbeth tebyg, does dim rheswm pam na ddylwn ni neud yr un peth."
Er iddo ennill enwogrwydd yn chwarae rhan Garry Monk ar Pobol y Cwm, mae Richard Lynch wrth ei fodd yn ynganu addasiad Gwyn Thomas o waith Shakespeare.
Dywedodd: "Mae'r addasiad yn ffyddlon iawn i'r hyn mae Shakespeare wedi'i ysgrifennu. Does dim byd wedi newid.
"Mae'r plot yn gwmws yr un peth, mae'r cymeriadau yn gwmws yr un peth, ond yn amlwg mae'r iaith yn gwbl wahanol.
"Beth sy'n dda ydy bod un o'n prif feirdd ni wedi'i addasu, a bod yr iaith yn anhygoel, mae'n wych.
"Mae'n bwysig uffernol bod e wedi cael ei wneud yn Gymraeg."