大象传媒

Carwyn Jones: 'Sefyllfa'r Egin wedi newid'

  • Cyhoeddwyd
Yr EginFfynhonnell y llun, PCDDS

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud iddo gael gwybod yn wreiddiol gan S4C na fyddai unrhyw gost i'r trethdalwr wrth iddyn nhw symud eu pencadlys o Gaerdydd i Gaerfyrddin.

Mae'r darlledwyr eisiau symud i safle newydd yn y dref - adeilad Yr Egin.

Ond mae'r datblygwyr, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant nawr yn gofyn am 拢6m gan Lywodraeth Cymru er mwyn helpu i ariannu'r cynllun.

Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol bod y cais am arian ar gyfer "cefnogi isadeiledd ar gyfer creu cwmn茂au, cyfleoedd economaidd a diwylliannol newydd".

Dywedodd Mr Jones ddydd Gwener: "Dwi'n cofio, pan gafodd hyn ei drafod gyda mi, y rheswm y cafodd Caerfyrddin ei ddewis oedd na fyddai yna gost i'r pwrs cyhoeddus.

"Nawr, wrth gwrs, mae'r sefyllfa wedi newid.

"Rhaid i mi ddweud, fe wnes i'r achos ar gyfer Dyffryn Aman am fy mod yn meddwl ei bod yn bwysig bod e'n mynd i ardal ble mae'r iaith o dan bwysau aruthrol.

"Ond yr ateb oedd 'Mae Caerfyrddin yno, mae'r safle yno, dyw e ddim yn mynd i gostio unrhyw beth'.

"Mae hynny wedi newid."

Mae llefarydd S4C wedi dweud bod "angen gwahaniaethu rhwng y costau sydd ynghlwm ag S4C yn symud ei bencadlys a 55 swydd i Gaerfyrddin a'r adeilad fydd yn gartref i'r sianel.

"Nid yw S4C erioed wedi gofyn am gyllid Llywodraeth Cymru i ariannu'r symud - bydd hyn yn gost niwtral i S4C dros gyfnod o 20 mlynedd.

"Prifysgol Cymru Drindod Dewi Sant sydd yn gyfrifol am godi'r adeilad fydd yn gartref i S4C a nifer o denantiaid eraill."

Mae'r datganiad hefyd yn dweud y bydd yr arian ar gyfer adeiladu Yr Egin yn dod o'r PCDDS, blaendaliad rent gan S4C a chais grant gan y Brifysgol.

Penderfyniad yn fuan

Ychwanega'r llefarydd: "Ond ar wah芒n i flaendaliad rent S4C, mater i PCDDS yw ariannu, adeiladu a rhedeg yr Egin.

"Nid yw, ac na fydd, S4C yn gwneud cais i Lywodraeth Cymru am arian ar gyfer y gwaith o symud i Gaerfyrddin.

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn dweud y bydd y symud yn "gost niwtral".

"Nid yw Llywodraeth Cymru yn ystyried cais ar gyfer symud, nac ariannu S4C i symud. Yn hytrach, cais ydyw i gefnogi isadeiledd ar gyfer creu cwmn茂au, cyfleoedd economaidd a diwylliannol newydd.

"Mae'r cais hwnnw yn seiliedig ar greu gwerth ac impact ychwanegol i benderfyniad S4C i symud i Sir G芒r."

Mae Carwyn Jones wedi dweud ei fod dal yn gefnogol i'r egwyddor bod S4C yn symud i Gaerfyrddin ac y byddai penderfyniad yn cael ei wneud yngl欧n ag os fydd y llywodraeth yn rhoi arian ar gyfer y symud "yn fuan".

Mae rhai ymgyrchwyr wedi gofyn i'r cynllun gael ei sgrapio ac y dylai S4C symud i Gaernarfon.