Gwersi ysgol
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau Cyngor Sir Caerfyrddin i newid statws iaith Ysgol Llangennech wedi esgor ar ffrae chwerw yn y pentref.
Ers i aelodau'r awdurdod lleol bleidleisio ym mis Ionawr i ollwng y ffrwd Saesneg yn Ysgol Llangennech ger Llanelli, mae rhai rhieni wedi bod yn protestio yn erbyn y cynlluniau i'w gwneud yn ysgol cyfrwng Cymraeg.
Un o gyn-ddisgyblion amlycaf yr ysgol yw'r darlledwr Huw Edwards. Mae'n rhannu ei deimladau yngl欧n 芒'r dadlau sydd yn bygwth creu rhwygiadau dwfn ym mro ei febyd:
Triw a ffyddlon
Rhoes Ysgol Llangennech - ac addysg cyfrwng Cymraeg - ddechrau arbennig i mi ar daith bywyd ac fe fyddaf yn dragwyddol ddiolchgar amdanynt.
Deuthum i fyw i Langennech o Benybont-ar-Ogwr yn fachgen pedair oed, a bu'r profiad o dreulio plentyndod mewn pentref Cymraeg ei iaith yn fantais ac yn fendith.
Bu newid mawr ers y cyfnod hwnnw - mae Cyfrifiad 2011 yn adrodd ei stori ei hun - ond mae Llangennech yn dal i fod yn bentref sydd yn cynnal y diwylliant Cymraeg yn driw a ffyddlon.
Byddaf yn ymweld yn gyson er mwyn cefnogi'r ymdrechion. Asgwrn cefn y traddodiad hwnnw yw'r ysgol leol y mae i'w phrifathro a'i staff a'i disgyblion enw ardderchog ar draws y sir.
Prif nodweddion bywyd Llangennech yn ystod fy llencyndod i oedd diwydrwydd - roedd 'na waith i gannoedd yn stordai'r Llynges, yr 'RN' hollbresennol - a chytgord cymdeithasol.
Disgwylid i ni'r 'bobl dd诺ad' barchu cymeriad a naws y pentref ac fe'n derbyniwyd ni 芒 breichiau agored. Dyna'r fargen. A bargen deg iawn oedd honno, yn fy marn bach i. Mae'n bosib bod realiti newydd ar waith erbyn hyn.
'Gwreiddiau yn bwysig'
Bu 1970 yn flwyddyn o gyffro ac o bryder yn ein teulu ni. Pentref Llafur oedd Llangennech bryd hynny - roedd y cynghorydd Mel Thomas yn un o hoelion wyth y blaid yn Sir Gaerfyrddin - ac fe benderfynodd fy nhad, , bod angen herio grym Llafur yn y pentref.
Credai erbyn hynny ei fod wedi hen ennill ei le fel 'un o fois y pentref', a pha ryfedd gan mai yng nghlwb rygbi Llangennech y treuliai oriau maith yng nghwmni'r criw bywiog yno?
Ond fe deimlai ambell un, heb os, fod Dad wedi cymryd cam yn rhy gynnar: buasai'n drigolyn ers pum mlynedd yn unig.
Fe gollodd ef a Phlaid Cymru yr etholiad hwnnw yn erbyn Llafur a'u hymgeisydd gweithgar, Gordon Lewis, 'un o fois y pentref' go iawn. Anghofiwyd y cyfan yn fuan wedyn gan fod Dad wedi dechrau triniaeth am ganser (cael a chael oedd hi iddo ddod drwyddi) ond fe ddysgwyd gwers ddefnyddiol ganddo yn wleidyddol. Mae gwreiddiau yn bwysig iawn, iawn mewn cymuned fel Llangennech.
'Dwyn anfri'
Erbyn Mai 1977 roedd Dad wedi llwyr wella - ac wedi ymgynefino yn ddigamsyniol - ac fe gipiodd y sedd yn yr ail gyfres o etholiadau i Gyngor Sir Dyfed. A dyna ddechrau ar gyfnod o brysurdeb dihafal iddo ym myd llywodraeth leol, yn enwedig o safbwynt addysg yn y sir.
Yn ystod y cyfnod hwn yr agorwyd Ysgol Gyfun y Strade, gan gynnig addysg uwchradd trwy gyfrwng y Gymraeg i filoedd o blant ardal Llanelli. Y tristwch mwyaf i Dad oedd bod y datblygiad yn rhy hwyr i mi ac i'm chwaer: bu'n rhaid i ni'n dau fynd i hen ysgolion gramadeg y dref.
Yn rhinwedd cyfraniad fy nhad i gyfundrefn addysg y sir, gofynnwyd i mi yn ddiweddar beth fyddai ei agwedd ef at y ffrwgwd cyhoeddus iawn yn Llangennech ynghylch y polisi iaith ym myd addysg.
Wedi'r cyfan, bu yntau yn ei ddydd yn gadeirydd llywodraethwyr yr ysgol. Does dim angen celu na gwamalu: byddai'r twrw wedi ei ddigio yn arw - yn bennaf oherwydd bod y ffrae wedi dwyn anfri ar enw da Llangennech.
Byddai hefyd wedi tynnu sylw yn ei ffordd ddeifiol ei hun at eironi'r sefyllfa, sef bod mwyafrif o gynghorwyr Llafur y sir wedi gwrthod cefnogi polisi eu prif weinidog, Carwyn Jones, a'u llywodraeth Lafur eu hunain yng Nghaerdydd.
Ac fe fyddai wedi herio a phrocio a phlagio byddin o bobl - gan gynnwys gwleidyddion etholedig yr ardal - i fynegi eu barn yn glir ac yn groyw ar y mater. Byddai'n sicr wedi croesawu'r cyfle i ddelio 芒 sylwadau'r Dr John Plessis, sef y ficer a soniodd am 'the seeds of sectarianism in the community'.
Miliwn o siaradwyr Cymraeg
Sut ar y ddaear y codwyd helynt fel hyn ym mhentref Llangennech? Mae'r esboniad yn syml ar un lefel. Mae Llywodraeth Cymru, dan reolaeth Llafur Cymru, wedi gosod targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae'r polisi o newid statws ieithyddol Ysgol Llangennech yn rhan o'r strategaeth honno. Ac felly dyma Gyngor Sir Gaerfyrddin, awdurdod lleol dan reolaeth Plaid Cymru, yn ufuddhau i bolisi Llafur Cymru. Dyna yw'r ffeithiau moel.
Mae Carwyn Jones yn sicr yn ddiffuant ei gefnogaeth i'r polisi, ac mae'r gweinidog Alun Davies yn gadarn ei ymrwymiad. Y broblem, yn 么l ffynonellau Llafur, yw bod rhai o ffigurau amlycaf y blaid yn y sir yn llugoer iawn eu hagwedd, a'u bod yn ofni herio'r sawl sy'n bendant yn erbyn.
Mae elfen arall y carwn ei thrafod yma, a'i thrafod yn ofalus yn rhinwedd canllawiau cyflogaeth y 大象传媒. Peth anhepgorol bwysig mewn democratiaeth iach yw cynnal safon trafodaeth gyhoeddus, parchu ymdrechion i ganfod y gwir, ac ymwrthod yn gadarn 芒 phob ymgais i gamarwain.
Mae cyfryngau cymdeithasol yn rhoi'r cyfle i bawb i fynegi barn yn gyhoeddus. Dylai'r sawl sy'n manteisio ar y cyfle - gan gynnwys newyddiadurwyr - wneud hynny mewn ffordd gyfrifol, yn enwedig ar fater mor sensitif 芒 pholisi iaith yng Nghymru.
Mewn democratiaeth iach, mae gan newyddiadurwyr yr hawl i ofyn cwestiynau. Nid dangos 'rhagfarn' yw herio neu gynnwys ffeithiau sy'n 'anghyfleus'. Ond peth maleisus, yn sicr, yw cyhuddo newyddiadurwr o 'ragfarn' am wneud ei waith yn gydwybodol.
Gwelir tuedd beryglus - ymhlith rhai Cymry Cymraeg, hefyd - i gwyno am 'ragfarn' pan ddarlledir adroddiad sy'n cynnwys ffeithiau nad oes croeso iddynt. Yn yr un modd, ceisiodd ambell un o'r protestwyr yn Llangennech fy 'mherswadio' i beidio 芒 dangos diddordeb yn yr helynt, trwy ddanfon cwyn at y 大象传媒 - a chrybwyll lliw gwleidyddol fy nhad fel 'tystiolaeth'.
Barnwch drosoch eich hunain.
Y gobaith mwyaf yn awr - mewn oes o wadu gwirionedd a gwyrdroi ffeithiau - yw bod pobl ar y ddwy ochr yn dysgu gwersi pwysig er mwyn codi safonau ymgyrchoedd y dyfodol.