拢8.5m yn rhagor o gyllid i raglenni Saesneg 大象传媒 Cymru
- Cyhoeddwyd
Bydd y 大象传媒 yn buddsoddi 拢8.5m yn ychwanegol y flwyddyn ar raglenni teledu Saesneg ar gyfer Cymru.
Daw'r cyhoeddiad yn dilyn ymgyrch i weld mwy yn cael ei wario yn y maes, gyda gwleidyddion a lob茂wyr yn galw am 拢30m yn rhagor.
Yn 么l y 大象传媒 bydd y buddsoddiad diweddaraf gyfystyr 芒 chynnydd o 50%, ac fe fydd yn mynd tuag at raglenni drama, comedi ac adloniant.
Dywedodd Bethan Jenkins, cadeirydd pwyllgor diwylliant y Cynulliad, ei bod yn croesawu'r cyhoeddiad ond nad oedd maint y buddsoddiad cymaint ag yr oedden nhw wedi'i obeithio.
'Creadigrwydd'
"Rwy'n falch iawn o gyhoeddi'r cynnydd sylweddol hwn yng nghyllid teledu i Gymru," meddai Cyfarwyddwr Cyffredinol y 大象传媒, Tony Hall.
"Mae gan 大象传媒 Cymru enw da am greadigrwydd ac rwy'n gwybod y byddant yn achub ar y cyfle newydd hwn gydag arddeliad.
"Rwy'n credu y bydd y buddsoddiad yma'n gwbl drawsnewidiol. Mewn meysydd megis drama, comedi ac adloniant, rydym yn disgwyl dyblu'r buddsoddiad.
"Ym maes newyddion a materion cyfoes, bydd o gymorth i ni symud yn gynt ar-lein a denu cynulleidfaoedd iau, a darparu mwy o adroddiadau arbenigol ar draws ein cynnwys.
"Mae'n holl bwysig bod y 大象传媒 yn portreadu'r bywyd a'r profiad Cymreig yn ei holl amrywiaeth, ac mae'r buddsoddiad yma'n ddatganiad clir o'n bwriad a'n huchelgais i wasanaethu holl gynulleidfaoedd Cymru."
Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones a'r Sefydliad Materion Cymreig wedi galw yn y gorffennol am 拢30m o fuddsoddiad ychwanegol, a hynny wedi cael ei ategu'n ddiweddar gan y pwyllgor diwylliant.
Daeth y galwadau hynny yn sgil darlith gan yr Arglwydd Hall yng Nghaerdydd yn 2014 pan ddywedodd bod rhaglenni teledu Saesneg yng Nghymru wedi "erydu" dros y ddegawd ddiwethaf.
Bydd y rhaglenni newydd sy'n cael eu cyllido yn cynnwys dwy ddrama newydd, gyda manylion i'w cyhoeddi yn y dyddiau nesaf.
Bydd yr arian hefyd yn cael ei ddefnyddio i wella gwasanaethau newyddion, gan gynnwys cynlluniau i ehangu ar wasanaethau arbenigol, ar-lein a symudol.
'Dim digon'
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad fodd bynnag dywedodd Bethan Jenkins y byddai'n rhaid aros i weld effaith y buddsoddiad cyn gweld a fyddai'n ddigonol.
"Rydyn ni wedi aros sbel am hyn. Rydyn ni'n croesawu unrhyw fuddsoddiad, ac mae cynnydd o 50% yn rhywbeth rydyn ni'n edrych 'mlaen at ei weld yn cael ei wario yma yng Nghymru ar raglenni newydd," meddai.
"Ond bydden i'n dweud nad yw cymaint 芒'r cynnydd o 拢30m y flwyddyn roedden ni am ei weld - nid yn unig ni, ond fe wnaeth yr IWA a chyn-bwyllgor cydraddoldeb y Cynulliad hefyd alw am y 拢30m.
"Mae gen i ddiddordeb gweld sut y bydd yr arian yn cael ei wario, a fydd e'n gwneud y gwahaniaeth rydyn ni angen ei weld mewn rhaglenni ar draws y gwasanaeth, ac yna hoffem ni holi'r Arglwydd Hall ymhellach pan fydd yn dychwelyd i'n pwyllgor ni ym mis Mawrth."
Mae disgwyl i'r buddsoddiad ddarparu 130 awr o raglenni ar gyfer 大象传媒 One Wales, 大象传媒 Two Wales a 大象传媒 iPlayer, gyda gobaith y bydd tua hanner ohono hefyd yn cael ei ddangos ar sianeli'r 大象传媒 ar draws y DU.
"Mae'r buddsoddiad yma i'w groesawu'n fawr," meddai cyfarwyddwr 大象传媒 Cymru, Rhodri Talfan Davies.
"Mae Cymru yn wlad sydd wedi ei bendithio 芒 stor茂wyr o fri, ac fe fydd y buddsoddiad yma yn rhoi llwyfan haeddiannol a chenedlaethol iddynt.
"Erbyn i ni gyrraedd ein cartref newydd yn y Sgw芒r Canolog, mewn llai na thair blynedd, dwi'n credu y bydd y gwahaniaeth ar ein sgrin yn glir i'n cynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru.
"Bydd y buddsoddiad newydd yma hefyd yn ein galluogi i ddenu cyllid ychwanegol drwy gyd-gynhyrchu, gan ddefnyddio'r modelau cydweithio yr ydym wedi eu datblygu gydag S4C ac eraill i ariannu cyfresi megis Y Gwyll."