Dioddefwyr twyll 'wedi colli 拢2.6m' yn y blynyddoedd diwethaf
- Cyhoeddwyd
Mae dioddefwyr yng Nghymru wedi colli mwy na 拢2.6m trwy dwyll yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yn 么l y ffigyrau diweddaraf gan Action Fraud, a'r henoed sy'n cael eu targedu waethaf.
Ond mae Safonau Masnach yn rhybuddio bod y nifer o bobl sydd wedi eu heffeithio yn debygol o fod 10 neu 20 gwaith yn uwch na'r ffigwr yma, gan nad yw llawer yn dweud wrth yr awdurdodau.
Collodd un unigolyn o ogledd Cymru dros 拢100,000 o'i gynilion trwy dri chynllun buddsoddi gwahanol.
Mae'r heddlu yn dweud bod gofalwyr angen bod yn ymwybodol o'r arwyddion bod aelodau teuluoedd yn cael eu targedu.
拢32,000 ar gyfartaledd
Mae ymchwil gan Action Fraud a Heddlu'r Met yn Llundain yn awgrymu bod 77% o ddioddefwyr twyll buddsoddi yn ddynion, a'r oed cyfartalog yw 65.
Ar gyfartaledd maen nhw'n colli 拢32,000.
Yn 么l y swyddog Safonau Masnach Alison Farrar, mae sgamiau yn gallu dechrau pan mae person yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth ac yn anfon ychydig o arian i ffwrdd i hawlio gwobr.
Ond mae'r sefyllfa yn gallu tyfu fel caseg eira.
Dywedodd: "Mi ydyn ni yn adnabod pobl sydd wedi colli popeth. Mae eu tai yn berchen i rywun arall am eu bod wedi eu perswadio i gymryd rhan mewn cynllun rhyddhau ecwiti mewn eiddo.
"Ac mae hynny'n golygu eu bod nhw'n poeni yn eu henaint yngl欧n ag aros yn eu cartrefi."
Bydd rhai cwmn茂au yn gwneud popeth posib i berswadio pobl i roi arian, gan dreulio misoedd yn eu hargyhoeddi bod eu cynigion yn ddiffuant.
Fe gollodd un dyn o Sir F么n dros 拢100,000 trwy dri chynllun gwahanol.
Gydag un o'r sgamiau fe brynodd bum diemwnt am chwech neu saith gwaith eu gwerth, gan feddwl y bydden nhw yn codi yn eu gwerth dros amser.
Mae am aros yn anhysbys am nad yw wedi dweud wrth ei deulu.
Esboniodd y dyn: "O'n i yn wirion ond mi oedden nhw mor gyfeillgar. Fe ddywedodd un dyn wrtha i fod ei wraig wedi colli babi. Mi oedd o'n crio ar y ff么n.
"Mi oedd wedi dweud wrth ei benaethiaid y byddai yn gwerthu'r diemwnt. 'Oedd o isio 拢1,000. O'n i methu talu hynny ond o'n i yn gallu fforddio 拢500.
"Nes i anfon 拢500. Trwy beidio talu am y diemwnt o'n i yn teimlo mod i yn ei siomi. Meddyliwch bod mor wirion ac anfon 拢500."
Fe brynodd bum diemwnt oedd yn amrywio o 拢3,000 i 拢18,000 ond maen nhw wedi eu prisio llawer yn llai.
Twyll $2.9m
Ym mis Awst y llynedd cafodd Martin Rhys-Jones o Gaerdydd ei garcharu am chwe blynedd gan lys yn America ar 么l cyfaddef i 'lanhau' arian mewn twyll gwerth $2.9m.
Roedd yr achos yn y penawdau am fod ei ferch, Emma, wedi dywedd茂o gyda ph锚l-droediwr Real Madrid, Gareth Bale, a'i ferch arall, Charlotte, yn gariad i'r chwaraewr rygbi rhyngwladol Taulaupe Faletau.
Roedd Nigel Cash o Gaint yn un o'r 250 o bobl wnaeth ddioddef yn sgil twyll Rhys-Jones. Fe brynodd gwerth 拢5,000 o gyfranddaliadau oedd bron yn ddi-werth.
10 mlynedd ers iddo brynu'r cyfranddaliadau cyntaf mae'n dal i gael galwadau.
Dywedodd: "Yr effaith ydy eich bod chi'n dod yn darged. Chi'n cael mwy o alwadau ff么n achos chi wedi prynu un set o gyfranddaliadau ac maen nhw wedyn yn meddwl bod chi'n hawdd i'ch twyllo.
"Dwi wedi cael sgyrsiau gwahanol gyda rhai yn trio rhoi pwysau arna i brynu a thro arall wedi ffraeo gyda nhw am fy mod i yn gwrthod buddsoddi mwy ac maen nhw yn troi'n ymosodol."
'Newid bywydau'
Dywedodd yr Uwch Arolygydd David Manley o Heddlu'r Met yn Llundain bod hi'n bwysig lledaenu gwybodaeth sut i atal trosedd fel hyn, yn enwedig mewn ardaloedd mwy gwledig.
"Da ni'n s么n am filiynau [yn cael eu colli]. Mae'n swm mawr o arian ar gyfer pobl sydd yn buddsoddi sydd yn dod i ddiwedd eu cyfnod gweithio. Dydyn nhw ddim mewn sefyllfa i allu ailgodi ar eu traed.
"Mae'n newid bywydau pobl."