Abertawe yn hyderus fod cytundeb dinesig 拢1.3bn yn barod
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Cyngor Abertawe yn hyderus y bydd cytundeb dinesig gwerth 拢1.3bn yn barod i'w lofnodi gan Lywodraeth y DU yr wythnos hon.
Mae Cytundebau Dinesig yn gweld ardaloedd yn cael arian mawr i fuddsoddi, a rhaid i ddinasoedd wneud cais am y cyllid.
Dywedodd y cynghorydd Rob Stewart na allai'r cyngor "fod mewn sefyllfa well" i gytuno ar y fargen a allai fod yn werth miliynau o bunnoedd dros y 15 mlynedd nesaf.
Ond mae ffynonellau o Lywodraeth y DU wedi awgrymu ei bod hi'n bosib na fydd y fargen yn cael ei chadarnhau yng nghyllideb y canghellor ddydd Mercher.
Morlyn y bae
Ni fydd gwifrau traws-Iwerydd oedd wedi eu disgwyl, fyddai'n darparu mynediad sydyn iawn i'r rhyngrwyd ar gyfer y rhanbarth, yn rhan o'r fargen fodd bynnag.
Bydd y gwifrau yn gynllun ar wah芒n, ond yn un cyflenwol, meddai Mr Stewart.
Wrth gael ei gyfweld flwyddyn yn 么l, fe bwysleisiodd cadeirydd Rhanbarth Dinas Bae Abertawe, Syr Terry Matthews, bwysigrwydd y sianel gyfathrebu o Efrog Newydd i Lundain drwy ranbarth de orllewin Cymru.
Ond dywedodd Mr Stewart fod gosod y gwifrau yn brosiect ar wah芒n - yn yr un modd 芒 chynllun y lag诺n a phrosiectau ynni yn y ddinas - ac felly yn eilradd i'r fargen yn hytrach nag yn uniongyrchol yn rhan o'r fargen ddinesig.
Mae'r fargen yn cynnwys 11 o brosiectau gwahanol sy'n anelu at gefnogi "diwydiannau'r genhedlaeth nesaf" drwy wella technolegau rhyngrwyd ar gyfer y sector ynni yn y rhanbarth.
Mae Mr Stewart yn gwadu'n gryf fod y pwyslais wedi symud i ffwrdd o'r weledigaeth o greu "arfordir y rhyngrwyd".
"Er mwyn cyflawni'r mathau o newid economaidd yr ydym am weld yn y rhanbarth, mae'n rhaid i ni fwrw ymlaen 芒'r bumed genhedlaeth o dechnolegau modern," meddai Mr Stewart.
"Rydyn ni wedi bod yn glir iawn am hynny ac mae Syr Terry Matthews a'i bartner busnes o Wesley Clover, Simon Gibson, wedi bod yn rhan annatod wrth ddod a hyn at ei gilydd.
"Maen nhw'n gallu dangos bod y model y maent wedi cyflwyno yn llwyddiannus yng Nghanada, maent wedi creu 22,000 o swyddi yno ac rydym yn credu y gallwn wneud y math yma o beth yn y rhanbarth yma."
'Cefnogaeth eang'
Dywedodd Mr Stewart bod cyfarfodydd cadarnhaol iawn wedi eu cynnal gydag Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, a'r Arglwydd Heseltine, sy'n ymgynghorydd i'r Ysgrifennydd Llywodraeth Leol a Chymunedau.
"Cyn belled ag yr ydym yn y cwestiwn, rydym wedi ateb yr holl gwestiynau a ofynnwyd i ni gan swyddogion y Trysorlys ac rydym yn teimlo ein bod ar y pwynt lle rydym yn barod i arwyddo," meddai wrth 大象传媒 Cymru.
Dywedodd bod 拢673m o fuddsoddiad preifat yn barod i ddod i mewn i'r rhanbarth ac roedd gan y cynllun "gefnogaeth sylweddol" gan ystod eang o'r sector breifat.
Ond er i'r canghellor Philip Hammond ddweud yr wythnos diwethaf ei fod yn gobeithio cadarnhau'r fargen ddinesig erbyn y gyllideb, mae un AS sy'n agos i'r broses wedi dweud bod angen mwy o waith arni cyn iddi gael ei chwblhau.
Dyw hi ddim yn glir chwaith a fydd morlyn Bae Abertawe, sydd wedi ei chymeradwyo gan adolygiad y llywodraeth ond ddim yn rhan o'r cytundeb dinesig, yn cael ei gymeradwyo yn y gyllideb.