Yr iaith ar daith
- Cyhoeddwyd
'Da ni ddim yn meddwl ddwywaith pan fyddwn ni'n clywed y Gymraeg yn cael ei siarad o ddydd i ddydd neu phan y byddwn ni'n gweld arwyddion yn yr iaith, ond weithiau mae iaith y nefoedd i'w gweld neu ei chlywed mewn llefydd annisgwyl iawn...
Iechyd da!
Dyma i chi d欧 to gwellt traddodiadol ger Stockbridge, Hampshire, ond edrychwch yn fwy gofalus. Beth yw'r 'sgrifen yna ar y mur?
Ar ddechrau'r 19eg ganrif roedd porthmyn o Gymru yn hebrwng eu gwartheg i Lundain ac roedden nhw'n cael lloches yn yr hen dafarn hon ym mherfeddion Lloegr. Mae'r geiriau GWAIR-TYMHERUS-PORFA-FLASUS-CWRW-DA-A-GWAL-CYSURUS ar y talcen yn dystiolaeth bod y Cymry wedi cael croeso cynnes ar eu taith hir a blinedig.
'L' fawr 'ta 'l' fach?
Mae'n si诺r bod y rhan fwyaf ohonom ni erbyn hyn wedi llunio llu o gyfrineiriau ar gyfer cyfrifon banc, gwefannau ac yn y blaen. Yn 1968 doedd 'na fawr o alw amdanyn nhw ond roedd Barbarella yn ffilm sci-fi o flaen ei hamser.
Mewn un golygfa mae Dildano (David Hemmings) yn gorfod llunio cyfrinair i'r fyddin fedru cael mynediad i'w bencadlys. Mae'n amlwg ei fod o wedi cael gwersi i beidio defnyddio un rhy hawdd i'w gofio felly beth well na un gyda 74 o gymeriadau a digon o lythrennau dwbl?
Dyna i chi beth ydy cyfrinair cadarn!
Sut 'dych chi?
Tref yn nhalaith Goa yn India ydy Benaulim a dyna ble'r aeth Owain Wyn Evans, dyn tywydd y 大象传媒, ar ei wyliau'r llynedd i osgoi glaw Cymru. Roedd Owain wedi rhagweld y byddai'r hinsawdd yn ffafriol ond doedd o ddim wedi disgwyl clywed ...
Arwyddion yr amserau...
Mae arwyddion dwyieithog i'w gweld ar hyd a lled y wlad... ond yn Purbrook, Hampshire y cafodd yr arwydd yma ei weld gan Adele Mallows. Roedd Adele wrth ei bodd gweld yr arwydd gan ei bod hi'n dod yn wreiddiol o Abertawe. Ond nid felly John Woodhouse, colofnydd The Sentinel pan gafodd arwydd dwyieithog tebyg ei weld ar ffordd yn Eccleshall, Sir Stafford.
Dywedodd Woodhouse: "Mae gweld arwyddion ffordd Cymraeg yn Eccleshall yn beth bis芒r iawn. Dydy'r dre' ddim yn adnabyddus am ei phoblogaeth fawr o siaradwyr Cymraeg. Mae 'na gwpl o ddynion sy'n swnio fel tasa nhw yn siarad Cymraeg ond fel arfer maen nhw wedi gor-yfed White Lightning tra'n gwylio Homes Under The Hammer."
'Falle bod angen arwydd arbennig ar Mr Woodehouse i'w rybuddio bod arwydd Cymraeg rownd y tro!
Mae'r awdurdodau dros y ffin yn egluro bod arwyddion dwyieithog i'w gweld tu hwnt i Gymru o dro i dro gan bod y contractwyr sy'n trwsio'r ffyrdd a'r is-adeiledd yn gweithio trwy'r DU gyfan a weithiau mae'n rhaid benthyca arwyddion sb芒r o Gymru. Maen nhw'n gwbl gyfreithlon gan mai arwyddion dros-dro ydyn nhw.