Ail gyfarfod i ystyried enwebiadau swydd Esgob Llandaf

Ffynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru

Fe fydd aelodau o'r Eglwys yng Nghymru yn cynnal ail gyfarfod ddydd Mawrth i ystyried enwebiadau ar gyfer swydd Esgob Llandaf.

Fis diwethaf methodd y coleg etholiadol o 47 o bobl, gan gynnwys yr holl esgobion yng Nghymru, a dod i benderfyniad wrth ethol yr offeiriad newydd.

Ond wedi iddynt fethu a chytuno ar 么l trafod am dri diwrnod, dim ond pleidlais dwy ran o dair sydd ei angen i ethol yr Esgob.

O dan delerau cyfansoddiad yr Eglwys, mae'r cyfrifoldeb o lenwi'r swydd wag yn dilyn pleidlais wedi methu am yr ail dro, yn disgyn i Fainc yr Esgobion.

Esgob Abertawe ac Aberhonddu, John Davies, sydd yn llywydd yn y coleg etholiadol.

Fe fydd yr esgobion nawr yn ystyried yr enwau sydd wedi eu cyflwyno fel ymgeiswyr posibl.

Mae'r etholiad yn dilyn ymddeoliad Dr Barry Morgan yn gynharach eleni.