大象传媒

Galw am well darpariaeth i blant byddar yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Oliver Hooper

Mae galwadau i wella'r ddarpariaeth a'r gefnogaeth i deuluoedd sydd 芒 phlentyn byddar.

Ar hyn o bryd mae teuluoedd yn gorfod gwario cannoedd ar wersi Iaith Arwyddo Brydeinig (BSL) er mwyn gallu cyfathrebu 芒'u plant sy'n fyddar - ond dyw llawer methu fforddio gwersi.

Mae rhai hefyd wedi mynegi pryder am y diffyg darpariaeth i'w plentyn mewn ysgolion prif ffrwd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei fod yn fater i awdurdodau lleol, ond eu bod eu bod wedi cefnogi hyfforddiant ar gyfer rhagor o gyfieithwyr yng Nghymru.

'Darparu mwy'

Yn 么l Cymdeithas Fyddar Prydain mae tua 6,000 o ddefnyddwyr Iaith Arwyddo Brydeinig yng Nghymru - 4,000 ohonynt yn fyddar.

Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod hyd at 90% o blant byddar yn cael eu geni i deuluoedd sy'n gallu clywed.

"Rydw i wedi siarad 芒 rhieni byddar a rhieni sy'n gallu clywed am fagu eu plant sy'n fyddar, ac mae'n amlwg nad ydyn nhw'n cael y gefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw er mwyn gwneud hynny'n llwyddiannus," meddai Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland.

"Dim ond tua 2,000-3,000 o blant hyd at 19 oed yng Nghymru sydd yn fyddar, felly 'dyn ni'n ddim yn s么n am niferoedd hynod o uchel.

"Dwi ddim yn meddwl eu bod nhw'n cael yr holl help sydd ei angen arnyn nhw ar hyn o bryd yng Nghymru, a dylen ni fod yn darparu mwy."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae angen rhagor o gefnogaeth ar rieni, meddai Dr Sally Holland

Dywedodd Paul Redfern o Gymdeithas Fyddar Prydain nad oedd digon o sylw wedi ei roi i'r mater hyd yma.

"Un o'r trafferthion yw bod BSL wedi ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru 'n么l yn 2007, ond dyw e ddim yn iaith swyddogol," meddai.

"Mae hynny'n golygu nad oes deddfwriaeth, felly mae'n anodd i rieni gael mynediad at yr addysg gywir a'r gefnogaeth sydd yn gysylltiedig 芒 BSL."

'Llai o gyfleoedd'

Mae Iona Rhys, sy'n fam i blentyn byddar o Wynedd, yn teimlo nad yw plant sy'n fyddar yn cael yr un cyfleoedd mewn ysgolion.

"Dwi'n teimlo dylai iaith arwyddo gael ei wneud yn rhan o'r cwricwlwm mewn ysgolion cynradd ac uwchradd er mwyn codi ymwybyddiaeth," meddai Ms Rhys ar raglen y Post Cyntaf.

"Tydi nifer o brif athrawon ddim efo'r profiad a tydi plant byddar ddim yn cael yr un cyfleoedd."

Gwrandewch ar y cyfweliad ar y Post Cyntaf

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn bwriadu buddsoddi 拢20m er mwyn cefnogi'r rheiny sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

"Er mai awdurdodau lleol sydd 芒 chyfrifoldeb dros sicrhau bod BSL ar gael i blentyn sydd angen y ddarpariaeth, rydyn ni wedi cefnogi hyfforddiant i gynyddu'r nifer o gyfieithwyr cymwys yng Nghymru," meddai'r llefarydd.

"Rydyn ni hefyd wedi sicrhau bod deddfwriaeth, polis茂au a rhaglenni yn eu lle er mwyn galluogi pawb i sylweddoli pwysigrwydd ffyrdd hygyrch o gyfathrebu."