大象传媒

Athrawon newydd Cymru

  • Cyhoeddwyd
ci a llyfr yn ei gegFfynhonnell y llun, Prifysgol Y Drindod Dewi Sant
Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Mae cael y ci yno yn helpu ambell blentyn i fynegi ei ymateb personol i stori neu lyfr"

Maen nhw'n dweud mai c诺n fu cyfeillion gorau dyn ers miloedd o flynyddoedd, ac mae ystadegau yn awgrymu bod un ym mhob tri o gartrefi Cymru 芒 chi anwes yn byw ynddo.

Ond yn ne-orllewin Cymru, mae 'na brosiect addysgiadol arloesol ar y gweill, sy'n cynorthwyo disgyblion i ddysgu darllen trwy gael c诺n yn ymweld 芒'r 'stafell ddosbarth. Pan fydd y c诺n yn mynd i'r ysgol hefyd, mae 'na gyfle i'r disgyblion oll gael cyfle i gyfarfod 芒'r ci, a dysgu sut mae cyfarfod 芒 chi dieithr yn saff am y tro cyntaf.

Helen Lewis, arweinydd rhaglen Tystysgrif Addysg Raddedig Cynradd Prifysgol Y Drindod Dewi Sant sy'n egluro rhagor am y cynllun:

Mae'r ci yn gwrando heb feirniadu ac yn y dosbarth mae yn tawelu ofnau plant sy'n brin o hyder fel darllenwyr ac yn eu helpu i ymlacio. Dyw'r ci byth yn ochneidio mewn rhwystredigaeth nac yn poeni os yw'r disgybl yn araf braidd yn darllen gair neu frawddeg.

Maen nhw'n gwmni parod a thawel, ac mae hynny ynddo'i hun yn rhoi hwb i hyder y darllenwr.

Hyd yma mae 12 ysgol yn ne-orllewin Cymru yn rhan o gynllun darllen gyda rhwng pedwar a chwech o ddisgyblion ym mhob ysgol yn cymryd rhan yn y cynllun.

Ar ddechrau'r prosiect cafodd gallu darllen y plant ei fesur, a bydd yn cael ei fesur eto ar ddiwedd y cynllun peilot i weld pa gynnydd a fu.

Mae'r plant yn cael sesiwn wythnosol gyda'r ci gwadd a'i gydymaith dynol gyda phob sesiwn yn para rhyw chwarter awr. Mae'r cydymaith wedyn yn cadw cofnod byr o'r hyn gafodd ei ddarllen ac unrhyw beth arall o bwys a ddigwyddodd yn y sesiwn ymarfer darllen.

Bydd hi'n ddiddorol gweld, ar ddiwedd y flwyddyn brawf, pa wahaniaeth y mae presenoldeb y c诺n wedi ei wneud i allu'r plant i ddarllen.

Ond mae'n amlwg yn barod bod cael y ci yn y dosbarth yn ystod y sesiwn ymarfer darllen yn helpu ambell blentyn i fynegi ei ymateb personol neu ei deimladau i stori, ac mae hynny ynddo ei hun yn braf iawn.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Y Drindod Dewi Sant
Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Mae'r ci yn wrand盲wr anfeirniadol ac yn y dosbarth mae yn tawelu ofnau plant sy'n brin o hyder"