大象传媒

Canghellor Prifysgol Caerdydd i ymddiswyddo

  • Cyhoeddwyd
Syr Martin EvansFfynhonnell y llun, Prifysgol Caerdydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Enillodd yr Athro Syr Martin Evans Wobr Nobel yn 2007

Mae Prifysgol Caerdydd wedi dweud y bydd canghellor y sefydliad yn ymddiswyddo ar 么l wyth mlynedd yn y swydd.

Fe wnaeth yr Athro Syr Martin Evans gyhoeddi ei benderfyniad i adael yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol y brifysgol ddydd Iau.

Bydd Syr Martin yn aros yn rhan o'r brifysgol fel Athro Emeritws.

Cafodd ei urddo fel canghellor yn 2009, a dechreuodd ei ail dymor yn y swydd yn 2014.

Dywedodd Syr Martin: "Braint ac anrhydedd oedd bod yn Ganghellor ar y sefydliad hwn, ac rwyf wedi mwynhau yn fawr.

"Pleser oedd bod yn rhan o'r seremon茂au graddio, un o'r uchafbwyntiau yng nghalendr y brifysgol.

"Bob blwyddyn, rwyf wedi rhannu balchder 芒'n holl raddedigion newydd, sy'n ymuno 芒 thros 145,000 o gyn-fyfyrwyr mewn dros 180 o wledydd ar draws y byd."

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Symudodd o Brifysgol Caergrawnt yn 1999 i arwain Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd, oedd newydd ei sefydlu.

Yn 2007 enillodd y Wobr Nobel mewn Meddygaeth am gyfres o ddarganfyddiadau am f么n-gelloedd embryonig ac ailgyfuno DNA mewn mamaliaid.

Dywedodd Llywydd ac Is-Ganghellor y brifysgol, yr Athro Colin Riordan: "Hyd yma, yr Athro Syr Martin Evans yw'r unig wyddonydd sy'n gweithio yng Nghymru sydd wedi ennill Gwobr Nobel.

"Mae Prifysgol Caerdydd yn ymfalch茂o'n enfawr yn hyn. Rydym yn ddiolchgar am ei gyfraniad aruthrol i'r byd gwyddonol ac am fanteision eang ei ymchwil a'i wasanaeth i'r brifysgol."

Bydd y broses ar gyfer sefydlu pwyllgor enwebiadau i apwyntio'r canghellor newydd yn dechrau maes o law meddai'r brifysgol.