Ai'r cyfryngau cymdeithasol yw'r ateb yn yr awr dywyll?
- Cyhoeddwyd
Gall treulio gormod o amser ar y cyfryngau cymdeithasol achosi iselder wrth i luniau a negeseuon pobl eraill greu teimladau negyddol fel cenfigen - dyna oedd neges ymchwil diweddar gan Brifysgol Copenhagen.
Ond ar y llaw arall ymddengys bod mwy o bobl yn troi at y cyfryngau cymdeithasol i drafod pynciau mawr bywyd.
Ddydd Sul bydd rhaglen arbennig ar Radio Cymru yn clywed sut mae cyfryngau cymdeithasol wedi helpu nifer i ymdopi mewn cyfnodau anodd.
Fis Hydref y llynedd bu farw Eifion Gwynne o Aberystwyth yn sydyn mewn damwain yn Sbaen. Bron yn syth gadawyd cannoedd o negeseuon yn cydymdeimlo 芒'r teulu - roedd yna negeseuon eraill yn cyfarch Eifion yn bersonol.
"Ro'dd fy neges i," meddai Julie Thomas, ffrind i'r teulu, "yn dweud rhywbeth tebyg i 'Mae Aber a'r ardal yn wag hebddo ti. Ma' gwacter mawr yma... anodd credu bo ti ddim efo ni'. Ro'n i'n teimlo bod rhaid i fi sgwennu rhywbeth.
"Heb os bu'r negeseuon ar Facebook yn gymorth i ni gyd ac i Nia a'r teulu - ro'dd y sylwadau yn cadw pawb i fynd ac mae'r teulu yn gallu cael cysur o'r negeseuon ar unrhyw amser."
'Facebook yn help'
Gweld y cyfrwng yn gysur ar adeg anodd hefyd mae Trystan Gruffydd, mab Lowri Gruffydd a oedd yn athrawes yn Ysgol Glantaf yng Nghaerdydd. Bu farw yn sydyn yn ystod llawdriniaeth yn haf 2015.
"Roedd Facebook yn help i fi i ddechrau i rannu'r wybodaeth am farwolaeth mam, cawsom gysur wedyn o weld y negeseuon cydymdeimlo ac ers iddi farw drwy edrych yn 么l ar dudalen Facebook mam - dwi wedi dysgu lot amdani.
"Mae'r ffaith fod y dudalen dal yn fyw rhywsut yn cadw ei chymeriad yn fyw."
Rhannu profiad
Un arall sy'n gweld y cyfryngau cymdeithasol fel adnodd gwerthfawr i rannu ei phrofiadau yw Malan Wilkinson, sydd wedi dioddef cyfnodau o iselder.
"Sgen i ddim cywilydd," meddai Malan. "Mae'n fodd i fi beidio rhoi'r baich i gyd ar un person. Yn sicr mae rhannu profiadau yn werthfawr - dwi'n dod ar draws pobl sy'n mynd trwy gyfnodau tebyg ac ry'n ni'n gallu bod yn gymorth i'n gilydd."
Mae dau arweinydd eglwys hefyd yn gweld gwerth yn y cyfryngau cymdeithasol ac yn dweud bod yn rhaid i'r Eglwys symud ymlaen gyda'r oes ond gyda gofal.
Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn gallu bod yn fynegiant i bob math o emosiynau, meddai'r Parchedig Beti Wyn James o Gaerfyrddin.
"Yn aml fe agorant gil y drws i deimladau rhywun a dyna pryd mae'n rhaid i ni fel arweinwyr eglwys fod yn barod i ymateb - fy hun mi fyddai i wedyn yn cysylltu'n bersonol," meddai.
"Er bod lle i'r cyfryngau cymdeithasol fyddan nhw byth yn disodli cymdeithas yr eglwys. Mae cymdeithas yr eglwys yn bwysig a rhaid ei diogelu."
"Dwi innau chwaith," meddai'r Parchedig Alun Tudur o Gaerdydd, "ddim yn gweld fy hun yn weinidog ar y we, ond rhaid cydnabod bod tudalennau fel Facebook yn gyfrwng i fynegi hiraeth a hel atgofion.
"Fe fyddai'n poeni weithiau, er hynny, nad yw'r galarus yn cael budd o'r amser 'na sy'n lleddfu galar. Mae modd edrych ar Facebook bob awr o'r dydd ac oherwydd hynny efallai nad yw'r dioddefydd yn cael cyfle i bellhau oddi wrth ddigwyddiad.
"Heb os mae i'r cyfryngau cymdeithasol eu lle ym mywyd yr eglwys - dyletswydd yr eglwys yw ymateb i'w her ond yn amlach na pheidio mae angen cyfarfod pobl yn bersonol."
Bydd y profiadau ar drafodaeth i'w clywed fore Sul (19 Mawrth) ar Bwrw Golwg am 08:00 ar Radio Cymru.