大象传媒

Theresa May yn cadarnhau Bargen Ddinesig Bae Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones a Theresa May yn cyfarfod i arwyddo'r fargen a thrafod Brexit
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Carwyn Jones a Theresa May yn cyfarfod i arwyddo'r fargen a thrafod Brexit

Mae Theresa May wedi ymweld 芒 Chymru ddydd Llun i arwyddo cynllun allai greu dros 9,000 o swyddi a denu buddsoddiad o 拢1.3bn yn ardal Abertawe.

Yn ystod ei hymweliad mae prif weinidog y DU yn cyfarfod prif weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn ogystal 芒 chynrychiolwyr o nifer o fusnesau a sectorau.

Byddai Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn hybu technoleg ddigidol a gwelliannau mewn meysydd fel gofal iechyd ac ynni.

Bwriad y cytundeb yw creu miloedd o swyddi a denu 拢2bn yn rhagor o fuddsoddiad dros 15 mlynedd.

Daw ymweliad Theresa May 芒 Chymru ar yr un diwrnod a chyhoeddi dyddiad pan fydd Llywodraeth y DU yn gweithredu Erthygl 50 - sef teclyn cyfreithiol o fewn Cytundeb Lisbon 2009 sy'n galluogi i wledydd adael yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd Erthygl 50 yn cael ei gweithredu ar 29 Mawrth.

Bydd y prosiectau ar draws ardaloedd Abertawe, Sir G芒r, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro yn cynnwys:

  • Cysylltu cwmn茂au ynni confensiynol ac adnewyddadwy yn ddigidol, a datblygu systemau newydd a phrosesau storio;

  • Parth menter 'cwmwl' i ddenu cwmn茂au data;

  • Defnyddio'r we i wella arwyddnodau iechyd, rheoli data a chreu cynlluniau triniaeth personol a tele-ofal;

  • Canolfan wyddoniaeth dur.

Bydd 拢241m o arian y cynllun yn dod gan lywodraethau Cymru a'r DU, 拢360m gan gyrff cyhoeddus eraill - cynghorau, addysg uwch a'r Undeb Ewropeaidd - a 拢673m gan gwmn茂au preifat.

Dywedodd Mrs May: "Mae'r cytundeb yn esiampl wych o beth all gael ei gyflawni pan mae Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bargen sydd o fudd i'r ddinas a Chymru gyfan."

Fe ddywedodd Mr Jones y byddai'r fargen ddinesig yn "sicrhau swyddi a thwf economaidd i bob cwr o'r de-orllewin".

"Mae hyn yn dangos ymarferoldeb bargeinion dinesig ar gyfer gwahanol rannau o Gymru, ac rydyn ni am weld hyn yn digwydd yn y gogledd hefyd," meddai.

"Rydyn ni'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn y gyllideb ddiweddar i Fargen Dwf Gogledd Cymru, ac fe fyddwn yn symud ymlaen gyda'r trafodaethau ar y cynigion."

Ffynhonnell y llun, TLP
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Plaid Cymru, mae angen i Lywodraeth y DU fynd ati i gymeradwyo prosiectau fel morlyn Abertawe

Dywedodd AC Plaid Cymru, Dr Dai Lloyd, ei fod yn croesawu'r fargen fel "cyfle unigryw i ddatblygu cyfleon economaidd yn yr ardal."

Ond ychwanegodd mai "un prosiect o nifer sydd angen eu delifro" yw'r fargen.

"Mae angen i Lywodraeth y DU gymryd camau 'mlaen o ran delifro Morlyn Llanw Bae Abertawe, a thrydaneiddio'r rheilffordd i Abertawe - rhannau allweddol yn jig-s么 newid tirlun economaidd de orllewin Cymru."

'Cyfleoedd' Brexit

Mae disgwyl i'r trafodaethau rhwng Mrs May a Mr Jones ganolbwyntio ar sut all pob rhan o'r DU, gan gynnwys Cymru, geisio gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd fydd yn codi yn sgil Brexit.

"Mae gan brifysgolion Cymru eisoes enw ardderchog yn rhyngwladol, gan ddenu myfyrwyr o dramor ac arwain mewn prosiectau ymchwil yma a thu hwnt," meddai Mrs May.

"Rydw i hefyd am i Gymru fod ar flaen y gad o ran gwyddoniaeth ac arloesi - fel sy'n cael ei ddangos gyda'r fargen ddinesig nodedig i Abertawe heddiw."