大象传媒

Esgob Llandaf: Eglwys yng Nghymru yn gwadu 'homoffobia'

  • Cyhoeddwyd
Dr Jeffrey JohnFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Jeffrey John wedi bod mewn partneriaeth sifil ers 2006

Mae offeiriad hoyw wedi cyhuddo'r Eglwys yng Nghymru o homoffobia wedi iddyn nhw wrthod ei gais i fod yn esgob.

Chafodd Jeffrey John, sydd yn ddeon yn St Albans, ddim mo'i ddewis fel esgob newydd Llandaf yn dilyn cyfarfod yn gynharach y mis yma.

Honnodd bod un o'r esgobion presennol wedi dweud wrtho y byddai'n "ormod o gur pen" ei benodi gan ei fod mewn partneriaeth sifil, er ei fod yn dilyn rheolau'r eglwys pan mae'n dod at berthynas rywiol.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eglwys yng Nghymru bod yr esgobion yn gwadu'r cyhuddiad o homoffobia.

'Dim sail'

Ysgrifennodd Dr John at Esgob Abertawe ac Aberhonddu, yr uwch-esgob ar hyn o bryd, wedi i gyfarfod o'r coleg etholiadol fethu 芒 dod i benderfyniad ar olynydd i Dr Barry Morgan fel Esgob Llandaf.

Mae'n debyg i Dr John dderbyn mwyafrif o'r pleidleisiau, ond dim digon i gyrraedd y ddwy ran o dair oedd eu hangen dan reolau'r eglwys.

Dywedodd bod sylwadau homoffobaidd wedi cael eu gwneud yn ystod cyfarfod y coleg etholiadol, sydd yn cynnwys esgobion, clerigwyr ac aelodau eraill.

"Yn bwysicach fyth, roedd yr unig ddadleuon yn erbyn fy apwyntiad - yn benodol gan ddau o'r esgobion - yn ymwneud yn benodol 芒'r ffaith mod i'n hoyw ac/neu mewn partneriaeth sifil, ac y byddai fy apwyntiad yn dod 芒 sylw cythryblus y gallai'r esgobaeth wneud hebddo," meddai.

Ychwanegodd bod un o'r esgobion wedi dweud wrtho dros y ff么n eu bod yn "rhy flinedig" i ddelio 芒'r problemau fyddai'n deillio o'i benodi.

"Dyw hynny ddim yn sail foesol na chyfreithiol i fy nghadw i allan," meddai.

Ffynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru

Yn dilyn methiant y coleg etholiadol i ddod i benderfyniad, dan reolau'r eglwys mae'r penderfyniad nawr yn disgyn ar fainc yr esgobion.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eglwys yng Nghymru: "Yn ystod cyfarfod ddiweddar y coleg etholiadol chafodd yr un ymgeisydd mwyafrif o ddau ran o dri o'r pleidleisiau i gael eu hethol yn Esgob Llandaf. Bydd esgobion yr Eglwys nawr yn gwneud penodiad.

"Yn dilyn proses o ymgynghori maen nhw wedi llunio rhestr fer o enwau sydd yn gyfrinachol. Fodd bynnag, mae'r esgobion yn gwadu'n gryf unrhyw honiadau o homoffobia."

Cafodd Jeffrey John, gafodd ei eni yn Nhonyrefail, Rhondda Cynon Taf, ei enwebu fel Esgob Reading yn 2003.

Ond gofynnwyd iddo dynnu'i enw yn 么l gan Archesgob Caergaint, Rowan Williams a hynny wedi i rai arweinwyr yn yr eglwys fygwth gadael y gymundeb petai'r penodiad yn cael ei gadarnhau.