Arddangos cynlluniau 拢200m i wella ffyrdd y gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau ar gyfer gwerth mwy na 拢200m o welliannau i'r A494 a'r A55 yng ngogledd Cymru yn cael eu harddangos i'r cyhoedd am y tro cyntaf ddydd Mawrth.
Bwriad y buddsoddiad arfaethedig yw mynd i'r afael 芒 thraffig ar y ffyrdd yng Nglannau Dyfrdwy.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y ffordd "yn is na safonau modern" ac mai'r buddsoddiad yma fyddai'r mwyaf ers i'r ffyrdd gael eu hadeiladu.
Mae'r cyntaf o bedair arddangosfa gyhoeddus yn dechrau ddydd Mawrth yng Nghlwb Cymdeithasol Ewlo rhwng 10:00 a 20:00.
Mae'r digwyddiadau yn rhan o ymgynghoriad yn edrych ar ddau gynnig - un ai gwella ffyrdd presennol yr A494 a'r A55, neu welliannau dros Bont Sir y Fflint ar hyd yr A548 a chyswllt newydd 芒'r A55 yn Llaneurgain.
Cafodd gynlluniau i ledu'r ffordd i fod yn draffordd saith l么n eu gollwng yn 2008 ar 么l ymgynghoriad cyhoeddus.