大象传媒

Merched Eden i swyno 'Steddfodwyr M么n ar Lwyfan y Maes

  • Cyhoeddwyd
EdenFfynhonnell y llun, Eden
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Rachael, Non ac Emma'n dweud eu bod 'methu disgwyl' i gael perfformio ar Lwyfan y Maes

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi mai Eden fydd uchabwynt y perfformiadau ar Lwyfan y Maes nos Wener 11 Awst yn y brifwyl ar Ynys M么n eleni.

Bydd y merched yn dilyn 么l troed rhai o fawrion y s卯n gerddorol Gymraeg sydd wedi diddanu'r dorf ar y nos Wener dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys Huw Chiswell, Bryn F么n, Geraint Jarman ac Edward H Dafis.

Bod-Eden

Mae Rachael, Emma a Non yn dweud eu bod yn edrych ymlaen am y daith i Fodedern: "Mae'r tair ohonom ni wedi ecseitio yn l芒n ein bod ni'n neud Y gig mawr ar Lwyfan y Maes!

"Dyma'r ffordd berffaith i ni ddathlu pen-blwydd Paid 芒 Bod Ofn yn 21!

"Dydyn ni methu disgwyl i fod yn Ynys M么n ddechrau Awst, a throi Bodedern yn Bod-EDEN am un noson!"

Mae hi'n 21 mlynedd ers i'w halbwm Paid 芒 Bod Ofn gael ei rhyddhau, ac iddyn nhw berfformio ym Maes B yn Eisteddfod Y Bala.

Ffynhonnell y llun, Yr Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ydych chi'n barod i roi lifft i Rachel, Non ac Emma i Ynys M么n?

Daeth y tair, sy'n canu gyda'i gilydd ers dyddiau ysgol, yn boblogaidd iawn yn ystod y 90au, a bydd cyfle i bawb gamu'n 么l i'r cyfnod hwnnw am un noson yn unig mewn dathliad pen-blwydd mawr.

Dywedodd Trefnydd yr Eisteddfod, Elen Elis: "Fel merch o'r un ardal 芒 genod Eden, 'alla i ddim disgwyl i'w gweld nhw'n perfformio yn y slot yma ar Lwyfan y Maes.

"Yn bendant, bydd hwn yn un o uchafbwyntiau'r wythnos, ac rwy'n gwybod y bydd cannoedd yn union fel fi yn awyddus i ail-fyw'r 90au am un noson!"

Dyma'r noson gyntaf i'w chyhoeddi ar gyfer yr Eisteddfod eleni. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei gyhoeddi'r wythnos nesaf a thocynnau ar werth o 3 Ebrill ymlaen.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Ynys M么n ym Modedern o 4-12 Awst.