Cynnydd mewn troseddau rhyw yn erbyn plant
- Cyhoeddwyd
Mae chwech trosedd rhyw yn erbyn plant yn cael eu hadrodd i'r heddlu bob diwrnod ar gyfartaledd, yn 么l NSPCC Cymru.
Yn 么l heddluoedd Cymru fe gafodd 2,238 o gwynion eu derbyn yn 2015-16 - cynnydd o 13% ar y flwyddyn flaenorol.
Yn ardal Dyfed-Powys fe wnaeth honiadau o droseddau gynyddu 107%, o 328 i 679, ond yng Ngwent roedd yna ostyngiad o 706 i 311.
Fe gafodd NSPCC Cymru y ffigyrau ar 么l cais Rhyddid Gwybodaeth, ac maen nhw nawr yn galw am fwy o gymorth i blant sydd wedi dioddef troseddau rhyw yn eu herbyn.
Dywedodd Des Mannion, pennaeth NSPCC Cymru: "Fe allai cam-drin rhywiol chwalu bywyd plentyn a heb help fe allai gael effaith arnynt weddill eu bywydau.
"Mae angen help i blant allu siarad, mae angen cefnogaeth er mwyn galluogi iddynt ddod dros eu profiadau a byw bywyd llawn."
Mae'r ffigyrau yn dangos cynnydd o 13% ar 2014-15.
Fe wnaeth y ffigwr godi o 398 i 584 yn ardal Heddlu Gogledd Cymru ac o 637 i 753 yn ardal Heddlu'r De.
O'r achosion cafodd eu hadrodd i'r heddlu dros y flwyddyn ddiwethaf, roedd 643 yn ymwneud 芒 phlant o dan 10 oed, ac o leiaf 185 yn ymwneud 芒 phlant oed pedair neu iau.