大象传媒

Beirniadu adroddiad ar ddyfodol parciau cenedlaethol

  • Cyhoeddwyd
llyn yn eryri

Mae adroddiad drafft ar ddyfodol parciau cenedlaethol Cymru wedi cael ei feirniadu gan gadwraethwyr, sydd yn dweud y gallai wneud niwed i'w enw da yn rhyngwladol.

Mae Cynghrair Parciau Cenedlaethol Cymru, sydd yn cynnwys nifer o gyrff cadwraethol, wedi dweud bod yr adroddiad fel ag y mae "yn peri risg i enw da parciau cenedlaethol fel tirweddau gwarchodedig yng Nghymru".

Dywedodd yr RSPB ac Ymddiriedolaethau Natur Cymru nad oedden nhw'n gallu cefnogi adroddiad Tirwedd y Dyfodol - sydd wedi'i lunio gan gr诺p dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Elis-Thomas - yn ei ffurf bresennol.

Mae digon sydd i'w gefnogi yn y ddogfen, medden nhw, ond maen nhw hefyd wedi mynegi "pa mor siomedig ydyn ni gyda'r adroddiad".

Egwyddor cadwraeth

Ychwanegodd y ddau gorff nad yw'n cynnwys unrhyw argymhellion clir, a bod diffyg cydnabyddiaeth o'r angen brys i daclo colli cynefin o fewn tirwedd warchodedig.

Mae'r adroddiad - oedd i fod i gael ei chyhoeddi ym mis Mawrth, ond fydd nawr yn cael eu rhyddhau yn hwyrach na hynny - wedi ei weld gan Newyddion 9.

Mae'n dweud mai ei "dyhead yw datgloi potensial llawn holl dirweddau Cymru", a bod gan y parciau cenedlaethol ac ardaloedd o harddwch naturiol ran allweddol i'w chwarae yn nyfodol y wlad.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd John Harold o Gymdeithas Eryri eu bod yn anhapus 芒'r adroddiad

Roedd galwad hefyd ar "gymunedau i gael eu hysbrydoli i ddatblygu eu gweledigaeth a thargedau tymor hir eu hunain ar gyfer y dyfodol, er mwyn creu swyddi a chyfleoedd i bobl ifanc aros a dychwelyd i'w cymunedau".

Ond mae cadwraethwyr yn pryderu nad yw'r adroddiad yn crybwyll 'Egwyddor Sandford' o gwbl, sydd yn dweud mai prif bwrpas parciau cenedlaethol yw gwarchod a chyfoethogi harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal.

'Gwarthus'

"Mae'r adroddiad fel mae o yn warthus i fod yn onest. Mae angen ailddrafftio," meddai John Harold o Gymdeithas Eryri.

"Does 'na ddim argymhellion clir, a 'dan ni'n bryderus iawn efo beth sydd ddim yn yr adroddiad. Does 'na ddim s么n am egwyddor cadwraeth yna, ac mae hynny'n bwynt sylfaenol - dyna beth mae parciau cenedlaethol i fod i wneud."

Ychwanegodd Elfyn Jones o Gymdeithas Fynydda Prydain: "Dwi'n siomedig dros ben fod yr adroddiad ddim yn dweud mwy am warchod y parciau cenedlaethol, ac am y cyfleoedd sydd 'na i gael gwell mynediad i barciau cenedlaethol.

"Dyna 'di sail parciau cenedlaethol - fe gawson nhw eu sefydlu yn 1949 er mwyn gwarchod y tirwedd anhygoel sydd o'n cwmpas ni, ac mae'n siomedig iawn gweld bod hynny i'w weld wedi cael ei dilutio yn yr adroddiad yma."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Elfyn Jones o Gymdeithas Fynydda Prydain eu bod yn disgwyl mwy gan yr adroddiad

Cafodd gr诺p Tirwedd y Dyfodol Cymru ei sefydlu yn 2015 gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi gwrthod gwneud sylw ar y mater, ond dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Mae'n bwysig cofio mai fersiwn drafft o'r adroddiad yw hwn.

Mae Rhaglen Tirweddau'r Dyfodol Cymru wedi bod yn hynod gydweithredol ei natur ac wedi cynnwys amrywiaeth eang o bartneriaid, sydd wedi cyfrannu at y trafodaethau a'r drafftio.

"Mae'r trafodaethau hyn yn barhaus wrth i adroddiad terfynol gael ei baratoi ar gyfer ei gyhoeddi cyn toriad yr haf."