大象传媒

Galw am ymchwiliad i ddyfodol cyfryngau print Cymru

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Rhestrodd Liz Saville Roberts holl bapurau bro Dwyfor Meirionnydd

Mae AS Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth y DU i gynnal ymchwiliad ar ddyfodol cyfryngau print yng Nghymru.

Yn ystod dadl yn Neuadd San Steffan ar ddyfodol darparwyr newyddion lleol, fe wnaeth Liz Saville Roberts godi pryderon bod toriadau i bapurau bro yn peryglu'r traddodiad o gael gwasg ddwyieithog yng Nghymru.

Daw wrth i'r unig bapur newydd Cymraeg cenedlaethol, Y Cymro, gyhoeddi ei fod yn chwilio am rywun i'w brynu.

Galwodd Ms Saville Roberts, a weithiodd fel newyddiadurwr i bapur y Caernarfon and Denbigh Herald, am fwy o r么l i Lywodraeth Cymru i gefnogi newyddion lleol.

'Gwagle difrifol'

"Rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ar Lywodraeth y DU i gynnal ymchwiliad i ddyfodol y cyfryngau print yng Nghymru, er mwyn asesu lefelau presennol o ddosbarthu a chyflwr cyhoeddiadau cyfredol," meddai.

"Ni allwn adael i'n cyhoeddiadau gau i lawr gan wneud dim am y gwagle difrifol a adewir ar 么l yn ein cymunedau."

Yn ei hap锚l i weinidogion, fe aeth AS Dwyfor Meirionnydd ymlaen i restru'r holl bapurau bro yn ei hetholaeth, gan ymddiheuro i'r gwasanaeth sy'n cofnodi popeth sy'n cael ei ddweud yn nhrafodaethau San Steffan, Hansard, am yr enwau anghyfarwydd Cymraeg.