Ble mae strydoedd serthaf Cymru?
- Cyhoeddwyd
Ddydd Mawrth, roedd trigolion Harlech yn dathlu ar 么l i Ffordd Pen Llech yn y dref gael ei henwi yn stryd fwyaf serth yn y byd.
Ond dydy Cymru ddim yn brin o strydoedd serth, a hithau'n wlad mor fynyddig. Ddydd Mercher, bu Anwen Daniels, Cynghorydd Tanygrisiau ger Blaenau Ffestiniog, yn esbonio ar raglen Post Cyntaf pam fod y trigolion yno yn ystyried herio Harlech am y record byd.
Ond ble mae strydoedd mwyaf serth eraill Cymru?
Ymhlith yr enwocaf mae Constitution Hill, Abertawe. Cafodd y rhiw serth sydd 芒 graddfa o 20% ei hanfarwoli yn y ffilm Twin Town. Cafodd y brodyr Lewis eu gweld yn sgrialu mewn car ar gyflymder uchel i lawr yr allt. Mae cyfyngiadau wedi eu gosod ar y stryd ers hynny er mwyn rhwystro eraill rhag efelychu eu campau peryglus.
Pan ystyriwch chi bod yna strydoedd serth yn Aberystwyth a Bangor hefyd, mi ddylai myfyrwyr Cymru fod ymhlith y rhai mwyaf heini yn y DU! Mae Cefn Llan, sy'n arwain o Llanbadarn tuag at gampws Prifysgol Aberystwyth 芒 graddfa o 25%. Dyw hi ddim mor serth 芒 rhai o elltydd y Tour de France, ond mae'n gosod her flynyddol i gystadleuwyr .
Does na ddim prinder rhiwiau serth yng nghymoedd y De, gyda sawl ymgeisydd am allt fwyaf serth Cymru. Ymhlith y rhai sydd angen tipyn o waith i'w dringo mae School Terrace, Blaengarw yn sir Penybont.
Her fawr yr eira
Yn 么l ym 1963, yn ystod gaeaf mwyaf rhewllyd yr ugeinfed ganrif a'r oeraf ers 1740, roedd Cynthia Davies yn byw ar ben School Terrace - gyferbyn 芒'r ysgol a roddodd yr enw ar y stryd.
"N么l ym 1963, roeddwn i'n athrawes ifanc yn ysgol Secondary Modern Blaengarw, yn dysgu Cymraeg. Roeddwn i'n lletya mewn t欧 tuag at dop School Terrace a oedd yn gyfleus iawn ar y cyfan o ran cyrraedd yr ysgol - tan i'r rhew a'r eira gyrraedd!
"Bryd hynny, gyda'r eira ar lawr, roedd croesi'r ffordd yn dipyn o her gan ei bod hi'n ffordd mor serth. Chwarae teg i'r plant, fe ddaeth criw ohonyn nhw draw i'm hebrwng i dros y ffordd i'r ysgol. Dwi ddim yn cofio ein bod ni wedi syrthio'n glep ar y ffordd draw - er mor serth y ffordd."
Angen br锚cs da!
Ond yn curo'r cyfan mae Ffordd Pen Llech yn Harlech, a nodwyd yn swyddogol ar 16 Gorffennaf, 2019, mai dyma stryd fwyaf serth y byd.
Meddai Gavin Brick, un o'r rhai sy'n byw ar y bryn:
"Rwy'n cerdded o orsaf y tr锚n i fyny'r bryn sawl gwaith yr wythnos gyda'm bagiau siopa, a'r gwir yw eich bod chi'n dod i arfer ag e. Mae'n wir ei bod hi'n anoddach yn yr hydref o ganlyniad i'r dail dan draed, ac yn gaeaf, pan fydd hi'n rhewllyd neu eira ar lawr, ond mae rhywun yn dod i arfer 芒'r rhiw serth. Yn sicr mae'n fwy o her ar gefn beic nac ar droed."
Ychydig flynyddoedd yn 么l aeth Huw Charles, yn wreiddiol o Fethesda, ar gefn ei feic o Gaergybi i Gaerdydd gyda chriw o ffrindiau.
"Mae'r atgof sydd gen i o Ffordd Pen Llech yn Harlech yn fyw iawn. Dwi'n cofio meddwl ar dop y bryn y byddai'n nos arna' i pe buasai br锚cs fy meic yn methu. Roeddem i gyd reit betrusgar wrth seiclo i lawr y llethr a'n breichiau a'n dwylo ni wedi blino'n lan o ganlyniad i wasgu'r br锚c mor hir erbyn cyrraedd y gwaelod.
"A deud y gwir, mi fuaswn i'n dweud mai'r daith o orsaf Llandecwyn trwy Eisingrug i Harlech oedd un o rannau mwyaf anodd y daith 250 milltir o Gaergybi i Gaerdydd - a wedyn mynd i lawr rhiw Ffordd Pen Llech ar y diwedd gyda'r olygfa fendigedig yna o'ch blaen! Mae'n brofiad na fydda i byth yn ei anghofio."
Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ym mis Mai 2017 a dyma rai o'r sylwadau a gafwyd trwy e-bost ac ar Facebook am strydoedd serth eraill Cymru ar y pryd. Ydych chi'n byw ar allt serth? Ebostiwch ni ar cymrufyw@bbc.co.uk
George Davies: "Y ddwy stryd sydd yn dringo i dai Summer Hill, Blaenau Ffestiniog - mae gen i gof clir o weithio yn y Post dros Dolig a gorfod cario llawer sach llond llythyron i Summer Hill. Hefyd y stryd yn Tan y Grisiau sydd yn dringo oddi tan y lein fach i fyny i dai Dolrhedyn."
Catrin Elis Williams: "Mae L么n Cefn T欧 (rhwng Minffordd a Llandygai) yn sobor o serth gerllaw Ffordd Hendrewen, Bangor!"
JohnSamuel: "Heol y Mynach, Aberd芒r, sy'n dringo dros y mynydd i Faerdy yn y Rhondda Fach"
Elin Ellis: "Abertyleri ym Mlaenau Gwent?"
Selwyn Thomas: "Allt rhiw Pen Ll欧n"
Aled Wyn Evans: "Harlech!"
Ceri Llwyd: "Allt y powls yn Llanfair Talhaiarn, allt Waterloo yn Llangernyw!!"
Aled Richards: "Cefn Llan, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth"
AnnTemple Morris: "Allt Gaffi, Bethesda"
Myrddin Roberts: "Beth am yr allt o Draeth Coch i fyny at Landdona?"
John Samuel: "Mountain Road, Cwmaman, Aberd芒r"
Awen Hamilton: "Nant Gwrtheyrn?"
Jane Marie: "Lon gam o draeth Nefyn yn serth a throellog"
Gwilym Edwards: "Y lon lle mae y hogyn bach yn mynd i fyny hefo Hovis i'w Fam"
David Roberts: "Os cewch chi hyd i un serthach na Gallt Pisgah, Pentre Broughton, Wrecsam, liciwn i wybod lle."