T芒n mawr mewn gwesty ym Mhowys dan reolaeth
- Cyhoeddwyd
Mae diffoddwyr gafodd eu galw i d芒n mawr mewn gwesty ym Mhowys yn dweud bod y safle bellach dan reolaeth.
Cafodd criwiau eu hanfon i'r digwyddiad am 15:30 ddydd Llun yng Ngwesty'r Severn Arms ym Mhenybont, ger Llandrindod.
Dywedodd Gwasanaeth T芒n ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod pobl yn yr adeilad pan ddechreuodd y t芒n, ond fod pawb wedi llwyddo i adael yn ddiogel.
Mae gan y dafarn 10 o ystafelloedd gwely, a bydd dronau yn cael eu defnyddio gan yr awdurdodau i archwilio'r difrod i'r adeilad.
Cafodd criwiau diffodd t芒n o Landrindod, Rhaeadr Gwy, Trefyclo a Llanfair ym Muallt eu galw i daclo'r fflamau, oedd wedi cydio yng nghefn yr adeilad.
Dywedodd y gwasanaeth t芒n eu bod yn parhau ar y safle er mwyn sicrhau bod y t芒n wedi diffodd yn llwyr.
"Fe wnaeth ymateb brys ein criwiau, a'u technegau diffodd t芒n sicrhau na wnaeth y fflamau ymledu i rannau preswyl eraill yr adeilad," meddai rheolwr rhanbarthol y gwasanaeth, Simon Jenkins.
Mae'r gwasanaeth t芒n nawr yn ymchwilio i achos y t芒n.