大象传媒

Pobl anabl yn cael eu 'hanwybyddu' medd adroddiad

  • Cyhoeddwyd
Anabledd

Mae pobl anabl yng Nghymru yn cael eu hanwybyddu, yn 么l adroddiad gan gorff sy'n ymgyrchu yn erbyn gwahaniaethu.

Yn 么l y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD), nid yw pobl anabl yn cael eu trin yn ddinasyddion cyfartal, er gwaethaf deddfwriaeth i amddiffyn eu hawliau.

Mae pwyllgor Cymreig y CCHD am i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio ar gydraddoldeb.

Dywedodd y llywodraeth y byddai'n ymateb ar 么l ystyried yr adroddiad.

'Effeithio'n sylweddol'

Yn 么l yr adroddiad, mae gan bobl anabl ddiffyg cyfleoedd addysg a gwaith, ac mae'r gwahaniaeth rhwng cyflogau pobl anabl a phobl eraill yn "lledu".

Mae hefyd yn datgan bod pobl anabl yn dal i gael trafferth defnyddio gwasanaethau trafnidiaeth, iechyd a thai, a bod "mynediad i gyfiawnder yn gwaethygu".

Mae newidiadau i'r system les yn "effeithio'n sylweddol ar safonau byw sy'n isel yn barod" i bobl anabl.

Daeth yr adroddiad i'r canlyniad bod:

  • Canran llai o bobl anabl mewn gwaith (42.6%) o'i gymharu 芒 phobl eraill (78.1%)

  • Dim ond 1.3% o brentisiaethau wedi eu dechrau gan fyfyrwyr anabl yn 2014/15

  • Yn 2012/13 roedd y gyfradd o bobl anabl mewn tlodi yn uwch na phobl eraill, gyda 27.5% o bobl anabl mewn tlodi yng Nghymru.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, June Milligan, bod yr adroddiad yn dangos bod pobl anabl yng Nghymru a Prydain yn cael eu hanwybyddu.

Ychwanegodd: "Mae'r newidiadau sydd eu hangen yn cynnwys lleihau'r bylchau addysg a gwaith i bobl anabl a chynyddu nifer y bobl anabl sydd mewn swyddi cyhoeddus a gwleidyddiaeth."

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod fframwaith ar fyw'n annibynnol yn adnabod y "rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu yn eu bywydau".

Ychwanegodd y llefarydd bod y llywodraeth yn gweithio gyda phobl anabl i adolygu'r fframwaith, a bod problemau hir dymor na fyddai'n cael eu datrys dros nos.